Ewch i’r prif gynnwys

Gwybod pwy yw eich prif ffynonellau cymorth

Diweddarwyd: 12/12/2024 12:46

Female customer service assistant smiling at a customer. She is standing behind a desk. Two people are just in shot.

Ble i ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth.

Mae croeso mawr ichi gysylltu â ni os bydd angen cymorth arnoch chi ar unrhyw adeg tra byddwch chi yn fyfyriwr yn y Brifysgol. P'un a oes angen cymorth arnoch chi o ran eich astudiaethau, cyllid neu eich lles personol, rydyn ni yma i'ch helpu.

Mewnrwyd y myfyrwyr

Ar ôl ichi gwblhau’r broses ymrestru ar-lein a chael eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair, byddwch chi’n gallu cyrchu mewnrwyd y myfyrwyr. Y fewnrwyd yw eich porth i ganfod yr holl offer, rhaglenni, adnoddau a gwasanaethau y bydd eu hangen arnoch chi i'ch cefnogi yn y Brifysgol.

Tiwtor personol

Cewch diwtor personol ar ddechrau eich rhaglen. Aelod academaidd o staff eich ysgol fydd yn rhoi arweiniad a chymorth academaidd a bugeiliol ichi drwy gydol eich cyfnod yn fyfyriwr yw tiwtor personol.

Cyswllt Myfyrwyr

Mae tîm Cyswllt Myfyrwyr yma i'ch rhoi mewn cysylltiad â'r gwasanaethau a'r cymorth sydd ei angen arnoch chi drwy gydol eich amser yn y Brifysgol. P'un a ydych chi’n chwilio am gymorth gyda'r broses ymrestru, eisiau cyngor ariannol neu os oes gennych chi bryderon am eich lles meddyliol, mae ein cynghorwyr yma i helpu. Anfonwch eich ymholiad i dîm porth Cyswllt Myfyrwyr neu ewch i Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr.

Myfyriwr mentora

Y myfyrwyr sydd yma ar hyn o bryd yw’r bobl orau i ateb eich cwestiynau am fywyd academaidd a bod yn fyfyriwr yng Nghaerdydd. Cewch eich paru â myfyriwr mentora yn eich ysgol pan fyddwch chi’n cyrraedd.

Tîm Bywyd Preswyl

Rydyn ni’n deall y bydd byw oddi cartref am y tro cyntaf yn gyffrous ac yn heriol weithiau. Mae Tîm Bywyd Preswyl y Brifysgol yn cynnal ystod eang o ddigwyddiadau am ddim yn neuaddau preswyl y Brifysgol, gan roi’r cyfle ichi gwrdd â phobl newydd a sgwrsio â'n Cynorthwywyr Bywyd Preswyl. Myfyrwyr sydd yma ar hyn o bryd yw’r cynorthwywyr. Maen nhw wedi byw yn neuaddau preswyl y Brifysgol a’u gwaith yw eich helpu os ydych chi'n cael trafferth pontio i fywyd prifysgol.

Goresgyn unrhyw heriau astudio a gwella’ch sgiliau

Mae datblygu eich sgiliau astudio’n hanfodol i sicrhau eich bod yn cwblhau eich cwrs hyd eithaf eich gallu ac i’r safonau uchaf. Dyna pam rydyn ni'n cynnig cymorth gan staff, adnoddau a digwyddiadau i'ch helpu.

Ymhlith y pynciau sy’n cael eu trafod ar fewnrwyd y myfyrwyr, mae:

  • adolygu ac arholiadau
  • rheoli amser
  • dod o hyd i wybodaeth a’i dewis
  • darllen a dadansoddi’n feirniadol
  • gwrando a gwneud nodiadau
  • ysgrifennu
  • cyflwyniadau
  • gwaith grŵp
  • cyfeirnodi ac uniondeb academaidd
  • dulliau ymchwil a dadansoddi data

Yn ogystal â chymorth gyda sgiliau astudio, mae cymorth ar gael hefyd i ddatblygu eich:

  • sgiliau iaith - Saesneg, Cymraeg ac ieithoedd tramor
  • sgiliau digidol
  • sgiliau cyflogadwyedd a rhinweddau graddedigion

Cymorth bugeiliol ac ysbrydol

Gwasanaeth diogel a chroesawgar i bobl o bob ffydd a’r rheini nad oes ganddyn nhw ffydd yw caplaniaeth y Brifysgol.

Undeb y Myfyrwyr

Mae Undeb y Myfyrwyr yn rhoi cyngor a chymorth annibynnol.