Ymuno â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Diweddarwyd: 10/05/2024 10:31
Rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael i chi fel myfyriwr sy’n siarad Cymraeg gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig cyfleoedd a chefnogaeth amrywiol drwy’r Gymraeg. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgolion Cymru i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg, ac mae cangen o’r Coleg Cymraeg ym mhob prifysgol.
Ymuno
Gallwch ymuno â'r Coleg Cymraeg fel disgybl ysgol, myfyriwr prifysgol ac fel aelod o staff.
Trwy ymaelodi â’r coleg, byddwch yn derbyn gwybodaeth am:
- ysgoloriaethau
- ein llysgenhadon
- profiad gwaith
- gwobrau
- ein tystysgrif sgiliau iaith.
Cyfleoedd
Mae’r gangen hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn lleisio barn a chymryd rhan mwy blaenllaw ym mywyd academaidd y myfyrwyr. Rydym yn chwilio am gynrychiolwyr myfyrwyr Cymraeg eu hiaith ar gyfer:
- Baneli Pwnc
- Pwyllgor y Gangen
- Fforymau Myfyrwyr
- Hyrwyddwyr Myfyrwyr
- Llysgenhadon Dyddiau Agored.
Cysylltu
Cysylltwch â'n Swyddog Cangen, Elliw Iwan:
![Elliw Iwan](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/28934/elliw-iwan-square.jpg?w=120&h=120&auto=format&crop=faces&fit=crop)