Ewch i’r prif gynnwys

Gwneud cais i astudio cwrs iaith

Diweddarwyd: 04/07/2024 13:25

P’un a ydych eisiau rhoi cynnig ar iaith newydd neu wella’r sgiliau sydd gennych chi eisoes, mae gennym ni amrywiaeth o ieithoedd a lefelau i chi ddewis o’u plith.

Ieithoedd i Bawb

Mynnwch fyd cyfan o leoliadau newydd, diwylliannau sy'n ysbrydoli a dewisiadau gyrfaol cyffrous drwy ddilyn cwrs iaith yn rhad ac am ddim.

Ar hyn o bryd rydym yn cynnig cyrsiau wythnosol ar gyfer naw iaith, a chyrsiau carlam yw llawer o’r rhain. Gallwch hefyd wneud rhagor o ymarfer neu roi cynnig ar iaith newydd trwy ddefnyddio'r opsiwn dysgu annibynnol. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau llyfrgell ffisegol ac ar-lein a chyfleoedd cyfnewid iaith.

Bydd ceisiadau ar gyfer gyrsiau wythnosol yn agor ar Medi 2024. Cewch ragor o wybodaeth am y cyrsiau hyn ar fewnrwyd y myfyrwyr fydd ar gael ar eich cyfer ar ôl ymrestru.

Os ydych newydd ddechrau eich gradd israddedig, rydym yn argymell eich bod yn aros tan y semester nesaf cyn dechrau dysgu iaith newydd. Bydd gwneud cais ychydig yn hwyrach yn rhoi amser i chi ymgartrefu a dod i arfer â bywyd yn y brifysgol.

Cymraeg i Bawb

Mae llawer o gyflogwyr a chwmnïau yn chwilio am raddedigion sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg. Ein rhaglen Cymraeg i Bawb yw eich cyfle i gael mynediad at ddarpariaeth arbenigol, broffesiynol ar amrywiaeth o lefelau.

Mae'r rhaglen wedi’i threfnu i’w chynnal ochr yn ochr â'ch astudiaethau, fel y gallwch ddysgu’r iaith ac astudio ar yr un pryd. Rydym yn cynnal cyrsiau wythnosol yn ystod y semester ac, ar hyn o bryd, yn cynnig cyrsiau carlam ar lefel dechreuwyr.

Rhagor o wybodaeth am Gymraeg i Bawb.