Ewch i’r prif gynnwys

Goblygiadau tynnu'n ôl

Diweddarwyd: 10/08/2023 09:44

Mae pob myfyriwr yn cael cyfnod o bythefnos ar ddechrau eu cwrs pa na chaiff ffioedd dysgu eu codi.

Myfyrwyr a ariennir gan Gyllid Myfyrwyr

Ar ôl y cyfnod o bythefnos, dyma faint fydd yn cael ei godi arnoch chi:

  • tymor 1 (o ddydd Llun 16 Hydref 2023 i ddydd Sul 21 Ionawr 2024) - 25%
  • tymor 2 (o ddydd Llun 22 Ionawr 2024 i ddydd Gwener 12 Ebrill 2024) - 50%
  • tymor 3 (o ddydd Sadwrn 13 Ebrill 2024 i ddydd Gwener 14 Mehefin 2024) - 50%.

Myfyrwyr nad ydynt yn cael eu hariannu gan Gyllid Myfyrwyr

Ar ôl y cyfnod o bythefnos, codir tâl arnoch, ar ôl tynnu unrhyw flaendal na ellir ei ad-dalu ar sail pro-rata, yn ôl nifer yr wythnosau o bresenoldeb ers dechrau’r cwrs:

  • 32 wythnos ar gyfer myfyrwyr israddedig, neu
  • 52 wythnos ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig.

Gwneir ad-daliad priodol os bydd angen.

Ceir adegau lle bydd gan gyrsiau penodol reolau gwahanol ar ad-dalu ffioedd. Yn yr eithriadau hyn, a phan mae'r rheoliadau ynghylch ad-dalu ffioedd dysgu yn wahanol i'r rhai a amlinellwyd uchod, cewch eich hysbysu'n glir am y rhain cyn dechrau'r cwrs.

Cysylltu â ni

Fe'ch cynghorwn i siarad ag aelod o staff yn y Swyddfa Gyllid i drafod y goblygiadau o dynnu'n ôl ar eich ffioedd dysgu.

Ymholiadau ffioedd dysgu gan fyfyrwyr

Gallwch drafod agweddau eraill sy'n gysylltiedig â thynnu'n ôl, megis y goblygiadau ariannol ar eich cyllid, gydag aelod o'r Tîm Cyllid a Chyngor i Fyfyrwyr.

Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr