Ffioedd dysgu
Diweddarwyd ddiwethaf: 13/08/2024 14:38
Sut a phryd i dalu eich ffioedd dysgu a faint a gaiff ei godi arnoch chi os byddwch chi’n tynnu’n ôl o’ch cwrs.
Bydd angen ichi dalu ffi ddysgu am bob blwyddyn o’ch cwrs, gan gynnwys blynyddoedd sy'n cael eu hailadrodd. Er mwyn cyfrifo’r gost i gyd, lluoswch y ffi ddysgu flynyddol â nifer y blynyddoedd y byddwch chi’n astudio. Nodwch y gallai ffioedd dysgu fod yn uwch yn y dyfodol.
Talu’n brydlon
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich ffioedd dysgu’n cael eu talu’n brydlon a bod eich cyllid, megis grantiau a benthyciadau, yn ei le cyn neu wrth ichi ymrestru ar-lein.
Bydd methu â thalu’r ffioedd dysgu erbyn y dyddiad a nodir yn arwain at orfodi Rheoliadau’r Senedd, a gallai arwain at ganslo eich ymrestriad. Os byddwch chi’n ei chael hi’n anodd yn ariannol ar ôl dechrau eich cwrs, cysylltwch â’r Tîm Cyllid a Chyngor i Fyfyrwyr i gael cymorth.
Benthyciadau ffioedd dysgu gan Gyllid Myfyrwyr
Pan fyddwch chi wedi cael llythyr ‘hysbysiad o hawl’ gan Gyllid Myfyrwyr, sicrhewch fod manylion eich cwrs a swm y ffioedd dysgu arno’n gywir.
Os bydd unrhyw fanylion ar y llythyr yn anghywir, mewngofnodwch i’ch cyfrif Cyllid Myfyrwyr cyn 1 Medi i’w newid.
Nodwch y gallai gymryd hyd at 20 diwrnod gwaith i Gyllid Myfyrwyr brosesu’r newid.
Ar ôl 1 Medi, ni fyddwch chi’n gallu newid y manylion eich hun. Os bydd y dyddiad hwn wedi mynd heibio a bod angen cymorth arnoch chi, cysylltwch â’r Tîm Cyllid a Chyngor i Fyfyrwyr.
Israddedigion: Bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yna’n talu eich ffioedd dysgu inni’n uniongyrchol.
Ôl-raddedigion: Os bydd eich benthyciad i fyfyrwyr yn cael ei dalu’n uniongyrchol i chi, mae’n rhaid ichi ddilyn y cyngor talu i fyfyrwyr sy’n ariannu eu hunain.
Talu eich ffioedd dysgu’n uniongyrchol/hunan-ariannu
Os byddwch chi’n talu eich ffioedd dysgu’n uniongyrchol ac nad ydych chi’n cael cyllid gan naill ai Cyllid Myfyrwyr neu noddwr arall, gallwch chi dalu’r ffioedd dysgu fesul tri rhandaliad. Trefnwch wneud hyn pan fyddwch chi’n ymrestru ar-lein ar SIMS.
Ffioedd dysgu anghywir
Os na fydd eich ffioedd dysgu’n dangos yn gywir, dylech ymrestru ar-lein o hyd ond peidio â gwneud taliad. Cysylltwch â'r Swyddfa Gyllid i gael cymorth.
Dulliau talu
Os na fydd eich cwrs yn dechrau ym mis Medi/Hydref, ni fyddwch chi’n gallu talu yn y ffordd hon.
Bydd Debyd Uniongyrchol yn cael ei gynnig yn ddull talu i fyfyrwyr pan fyddan nhw’n ymrestru ar-lein. Bydd angen llenwi’r mandad Debyd Uniongyrchol. Bydd y mandad ar waith tra byddan nhw’n gwneud eu cwrs.
Mae modd talu fesul tri rhandaliad gan ddefnyddio Debyd Uniongyrchol (cyn belled â bod y cyfanswm sy’n ddyledus dros £500).
Gwnewch yn siŵr o’r canlynol:
- bod y manylion banc ar gyfer cyfrif banc/cymdeithas adeiladu dilys yn y DU sy’n caniatáu Debydau Uniongyrchol
- bod y Debyd Uniongyrchol yn cael ei drefnu o leiaf fis cyn y dyddiad casglu cyntaf
- bod rhybudd o saith diwrnod gwaith yn cael ei roi os bydd angen ichi ganslo’r Debyd Uniongyrchol
- bod gennych chi ddigon o arian yn eich cyfrif pan fydd angen i’r Debyd Uniongyrchol gasglu’r taliad
Myfyrwyr rhyngwladol
Os bydd angen ichi agor cyfrif banc yn y DU, bydd angen dogfennau swyddogol gan y Brifysgol arnoch chi.
Bydd modd ichi dalu, naill ai’n llawn neu fesul tri rhandaliad, gan ddefnyddio unrhyw un o’r prif gardiau credyd neu ddebyd (ac eithrio American Express). Byddwch chi’n gallu rhoi manylion eich cerdyn wrth ymrestru ar-lein. Ar ôl ichi wneud y rhandaliad cyntaf, bydd modd gwneud taliadau pellach ar SIMS.
Os byddwch chi’n talu fesul tri rhandaliad, bydd y dyddiadau talu fel a ganlyn:
Israddedigion ac ôl-raddedigion
- y rhandaliad cyntaf – wrth ymrestru ar-lein, neu cyn hynny
- yr ail randaliad – 24 Ionawr 2025
- y trydydd rhandaliad – 24 Ebrill 2025
Trosglwyddiad ar-lein o’ch banc lleol
Ewch i’n gwefan GlobalPay i dalu drwy wneud trosglwyddiad o’ch banc lleol. Dyma rai o fanteision y dull talu hwn:
- Ffioedd dysgu’n cael eu talu ar-lein yn yr arian cyfred o’ch dewis
- Dim tâl comisiwn – dim ffioedd banc ychwanegol ar gyfer 37 math o arian cyfred
- GlobalPay yn ddiogel ac yn hawdd ei ddefnyddio drwy Convera
- Yn hawdd talu o’ch banc lleol Ar ôl ichi fewngofnodi i GlobalPay, byddwch chi’n cael cyfarwyddiadau argraffedig ar sut i wneud trosglwyddiad o’ch banc lleol.
Er mwyn gorffen trosglwyddo’r arian i Brifysgol Caerdydd, bydd angen ichi gwblhau’r trosglwyddiad drwy fancio ar-lein neu roi’r manylion banc i’ch banc lleol ymhen 72 awr.
Bydd e-bost yn cael ei anfon gan Convera i gadarnhau ei fod wedi cael yr arian.
Mewn rhai achosion, os na fydd eich dewis o arian cyfred ar gael, efallai y bydd yn rhaid ichi wneud y trosglwyddiad mewn naill ai ewros neu USD. Efallai y bydd tâl rhyngwladol yn cael ei godi arnoch chi am wneud hyn, a gallai fod tâl uwch am y trosglwyddiad hwn.
Trosglwyddiad uniongyrchol o’ch banc
Mae modd talu eich ffioedd dysgu’n llawn neu fesul tri rhandaliad drwy wneud trosglwyddiad uniongyrchol o’ch banc i gyfrif banc y Brifysgol. Er mwyn inni allu gweld yn hawdd ar gyfer pwy mae’r taliad, sicrhewch eich bod yn dyfynnu’r canlynol:
- eich rhif myfyriwr (neu ymgeisydd)
- eich enw llawn
Nid yw’r dull talu hwn ar gael wrth ymrestru ar-lein, ac mae’n rhaid inni ofyn ichi sicrhau bod eich taliad yn ein cyrraedd cyn pen saith diwrnod gwaith cyn ichi ymrestru ar-lein.
Y manylion ar gyfer gwneud trosglwyddiad uniongyrchol o’ch banc yw:
Lloyds Bank, 31 Heol y Frenhines, Caerdydd CF10 2AG
Cyfrif: Ffioedd Dysgu Prifysgol Caerdydd
Rhif y Cyfrif: 17852568
Cod Didoli: 30-67-64
Côd Adnabod y Banc (BIC): LOYDGB21707
Rhif Cyfrif Banc Rhyngwladol (IBAN): GB53 LOYD 3067 6417 8525 68
Os byddwch chi’n dewis y dull talu hwn, rydyn ni’n eich cynghori i ofyn am dderbynneb papur/prawf o’r trosglwyddiad. Os bydd problem yn codi, bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws inni ddod o hyd i’ch taliad.
Os byddwch chi’n talu fesul tri rhandaliad, mae’r dyddiadau talu fel a ganlyn:
Israddedigion ac ôl-raddedigion
- y rhandaliad cyntaf – wrth ymrestru ar-lein, neu cyn hynny
- yr ail randaliad – 24 Ionawr 2025
- y trydydd rhandaliad – 24 Ebrill 2025
I gael rhagor o wybodaeth neu gadarnhau a ydyn ni wedi cael eich taliad, cysylltwch â’r Swyddfa Gyllid.
Os ydych chi’n fyfyriwr a noddir, bydd angen ichi gwblhau’r broses ymrestru ar-lein o hyd.
Os byddwch chi wedi cael nawdd ar gyfer eich ffioedd dysgu (nid yw hyn yn cynnwys sefyllfaoedd lle gallai aelodau o’r teulu neu ffrindiau benderfynu gwneud taliadau ar eich rhan), dylech chi wneud y canlynol:
- ceisio llythyr gan eich noddwr sy’n cadarnhau ei fod yn derbyn cyfrifoldeb am dalu’r ffioedd dysgu
- e-bostio’r llythyr i studentconnect@caerdydd.ac.uk i’r Is-adran Gyllid cyn gynted ag y byddwch chi wedi’i gael neu cyn pen saith diwrnod gwaith cyn ichi ymrestru ar-lein.
Mae’n rhaid ichi gyflwyno llythyr nawdd swyddogol ar gyfer pob blwyddyn astudio. Os na fyddwch chi’n gallu anfon eich llythyr nawdd i'r Brifysgol cyn ichi ymrestru ar-lein, bydd cyfle gennych chi i lanlwytho copi wrth ymrestru ar-lein. Bydd methu â gwneud hyn yn golygu na fyddwch chi’n gallu gorffen ymrestru ar-lein.
Nid yw hyn yn berthnasol i’r myfyrwyr sy’n cael cyllid drwy Gyllid Myfyrwyr, gan y bydd y wybodaeth hon yn cael ei hanfon i Brifysgol Caerdydd yn electronig.
Os bydd eich noddwr yn methu â thalu
Yn unol â gweithdrefnau ariannol Prifysgol Caerdydd, os bydd eich noddwr yn methu â thalu'r ffioedd dysgu sy’n ddyledus, chi fydd yn gyfrifol yn bersonol am eu talu’n llawn. Nodwch y bydd hyn yn effeithio ar eich gallu i gael dyfarniad gan y Brifysgol. Eich cyfrifoldeb chi hefyd yw sicrhau bod eich noddwr yn gwybod bod angen talu’r ffioedd dysgu cyn pen 30 diwrnod ar ôl dyddiad yr anfoneb. Os na fyddwn ni wedi cael taliad mewn pryd, chi fydd yn gyfrifol yn bersonol am dalu’r ffi ddysgu’n llawn.
Os ydych chi’n fyfyriwr a noddir yn rhannol
Os ydych chi’n fyfyriwr a noddir yn rhannol, oni fydd y noddwr yn nodi fel arall, bydd y rhan a noddir o’r ffi’n cael ei didynnu, a chi fydd yn gyfrifol am y gweddill, sy’n daladwy fesul tri rhandaliad. Nid oes modd ichi ohirio gwneud y rhandaliad cyntaf wrth aros am gyllid rhannol.
Bydd SIMS yn dangos eich dyddiadau talu a’r symiau i’w talu.
Gall myfyrwyr rhyngwladol ddefnyddio platfform talu Convera i dalu eu ffioedd dysgu. Bydd hyn yn eich galluogi chi, eich rhieni a’ch noddwr i dalu ffioedd dysgu yn yr arian cyfred o’ch dewis. Mae hefyd yn cynnig ffordd syml a diogel o wneud taliad.
Efallai y bydd myfyrwyr sy’n dod i Brifysgol Caerdydd o’r Unol Daleithiau’n dewis cymryd benthyciad ar gyfer eu holl ffioedd dysgu neu ran ohonyn nhw. Mae’r holl wybodaeth am sut i ymgeisio am gyllid ar gael ar y dudalen we ‘UDA’.
Gall y Swyddfa Gyllid drefnu llythyr i gynorthwyo â’r broses trosglwyddo arian. Fodd bynnag, oherwydd y galw mawr ar yr adeg hon o’r flwyddyn, bydd yn rhaid ichi aros o leiaf dri diwrnod gwaith i’r llythyr gael ei baratoi. Yna, bydd y llythyr yn cael ei anfon drwy e-bost.
E-bostiwch studentconnect@caerdydd.ac.uk i ofyn am lythyr cyfnewid dramor neu dystysgrif treth Canada.
Myfyrwyr Clirio
Os byddwch chi’n fyfyriwr Clirio, darllenwch ein canllawiau ar gyllid i fyfyrwyr Clirio a sut i reoli oedi wrth dalu eich cyllid ichi.
Effaith tynnu'n ôl o'ch cwrs
Ni fydd gofyn ichi dalu unrhyw ffioedd dysgu yn ystod y pythefnos cyntaf ar ôl ichi ddechrau eich cwrs.
Myfyrwyr a ariennir gan Gyllid Myfyrwyr
Ar ôl y cyfnod o bythefnos, dyma faint a gaiff ei godi arnoch chi:
- tymor 1 – 25% (o ddydd Llun, 14 Hydref 2024 tan ddydd Sul, 19 Ionawr 2025)
- tymor 2 – 50% (o ddydd Llun, 20 Ionawr 2025 tan ddydd Gwener, 4 Mai 2025)
- tymor 3 – 100% (o ddydd Llun, 5 Mai tan ddydd Gwener, 13 Mehefin 2025)
Myfyrwyr sy’n hunan-ariannu
Ar ôl y cyfnod o bythefnos, caiff swm pro-rata ei godi arnoch chi ar sail nifer yr wythnosau rydych chi wedi’u treulio ar eich cwrs, llai unrhyw flaendal nad yw’n ad-daladwy.
- 32 wythnos i israddedigion
- 52 wythnos i ôl-raddedigion
Bydd ad-daliad priodol yn cael ei wneud, os bydd angen.
Mae rheolau rhai cyrsiau ynghylch ad-dalu ffioedd dysgu’n wahanol. Os bydd rheolau eich cwrs yn wahanol i’r rheoliadau safonol, byddwch chi’n cael eich hysbysu’n glir o hyn cyn i’r cwrs ddechrau.
Cysylltu â ni
Os bydd angen cymorth arnoch chi sy’n ymwneud â thalu eich ffioedd dysgu, dyma’r manylion cyswllt:
Ymholiadau ffioedd dysgu
Gall y Tîm Cyllid a Chyngor i Fyfyrwyr ateb cwestiynau cyffredinol a’ch helpu i ddelio ag unrhyw broblemau sy’n ymwneud â’ch cyllid. Gall hefyd roi cyngor ar oblygiadau ariannol tynnu’n ôl o’ch cwrs:
Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr
Sut a phryd y byddwch yn derbyn eich cyllid ac osgoi oedi.