Ewch i’r prif gynnwys

Gwasanaethau Cymorth Arbenigol

Diweddarwyd diwethaf: 13/08/2024 15:47

Gwybodaeth am y mathau o gymorth arbenigol y gallwn ei ddarparu.

Os yw'r Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr yn argymell gwasanaeth cymorth arbenigol nad yw'n feddygol i chi fel addasiad rhesymol neu'n dilyn eich asesiad anghenion Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA), mae ein gwasanaeth mewnol yma i'ch cefnogi.

Gweithiwr cymorth

Mae gennym dîm o weithwyr cymorth sy'n gallu gweithio gyda chi i'ch cynorthwyo gydag ystod o weithgareddau'n gysylltiedig ag astudiaethau, fel:

  • cymryd nodiadau mewn darlithoedd
  • eich cyfeirio neu eich helpu i symud o amgylch y campws
  • cymorth gyda dosbarthiadau labordy neu ymarferol
  • gwasanaeth llyfrgell.

Tiwtora sgiliau astudio

Mae gennym dîm o diwtoriaid sgiliau astudio arbenigol sy’n gallu cynnig cefnogaeth sgiliau astudio i chi. Mae'r gefnogaeth mae ein tiwtoriaid n cynnig yn canolbwyntio ar gynnig y sgiliau sy'n gysylltiedig ag astudio canlynol:

  • sgiliau trefnu a rheoli amser
  • technegau gwneud nodiadau a chofio
  • sgiliau ymchwil
  • ysgrifennu academaidd
  • sillafu a gramadeg
  • strategaethau adolygu
  • sgiliau cyflwyno
  • dysgu annibynnol.

Gwasanaeth mentora iechyd meddwl

Mae ein mentoriaid yn gweithio gyda chi i reoli eich gofynion sy'n gysylltiedig â'ch astudiaethau a allai gael eu heffeithio gan effaith eich cyflwr iechyd meddwl. Mae'r cymorth sy'n cael ei gynnig gan ein mentorau yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau astudio sy'n cwmpasu'r canlynol:

  • oedi
  • perffeithiaeth
  • cymhelliant
  • canolbwyntio
  • dysgu annibynnol
  • ymdopi â newid.

Gwasanaethau allanol

Os nad ydych yn gymwys i gael DSA, a bod angen gwasanaethau arbenigol eraill arnoch, mae’n bosibl y gall y brifysgol edrych ar y gost gysylltiedig ar gyfer cymorth ac addasiadau a’i thalu. Bydd angen i chi drafod eich gofynion mynediad gyda chynghorydd anabledd.

Os argymhellir gwasanaethau i chi trwy'r DSA a ddarperir gan ddarparwr allanol, bydd angen i chi gysylltu'n uniongyrchol â'r darparwr hwn i gael mynediad at y cymorth. Os ydych yn cael trafferth cysylltu â’r darparwr neu drefnu’r ddarpariaeth hon, rhowch wybod i ni gan y gallwn eich cefnogi gyda hyn.

Cysylltwch â ni

Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr