Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogaeth wrth eich Ysgol Academaidd

Diweddarwyd ddiwethaf: 13/08/2024 15:38

Addasiadau rhesymol i'ch helpu gyda'ch astudiaethau.

Gall y Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr argymell addasiadau rhesymol amrywiol i'ch helpu gyda'ch astudiaethau, yn seiliedig ar asesiad o'ch anghenion unigol sy'n ymwneud ag anabledd.

Addasiadau rhesymol

Gall y rhain gynnwys:

Mae'r mathau o addasiadau rhesymol rydym wedi’u trefnu i’n myfyrwyr o flaen llaw yn cynnwys:

  • darparu sleidiau darlithoedd neu daflenni o flaen llaw
  • deunyddiau cwrs mewn fformat amgen (e.e. print bras neu bapur lliw)
  • mynediad at ddarlithoedd neu ganiatad i'w recordio
  • gwneud cyflwyniadau i grwpiau llai
  • trefniadau cefnogi ar gyfer sesiynau ymarferol neu labordy a theithiau maes
  • trefniadau arholiad fel amser ychwanegol a seibiannau gorffwys.

Mae ysgolion academaidd wedi nodi aelodau o staff, a elwir yn gysylltiadau anabledd, y byddwn yn cysylltu â nhw i weithredu'r addasiadau a argymhellir yn ymwneud â'ch rhaglen astudio.

Mae'r holl addasiadau rhesymol a argymhellir yn cael eu hystyried gan staff academaidd a'u rhoi ar waith pan fo modd.

Cysylltwch â ni

Os oes angen y math hwn o ddarpariaeth arnoch chi, cysylltwch â:

Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr