Cymorth ariannol
Diweddarwyd ddiwethaf: 15/08/2024 16:15
Cewch wybod am y gefnogaeth ariannol sydd ar gael i ariannu eich cymorth anabledd.
Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA)
Os ydych yn fyfyriwr o'r DU, gallech fod yn gymwys ar gyfer Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) fydd yn helpu i ariannu eich cymorth anabledd. Mae'r DSA yn lwfans ddi-brawf sy'n talu am unrhyw gostau astudio ychwanegol sy’n deillio o ganlyniad i’ch anabledd.
Gall DSA o bosibl eich helpu i dalu am:
- offer arbenigol (e.e. meddalwedd, caledwedd ac offer ergonomaidd)
- cynorthwywyr anfeddygol (e.e. cefnogaeth astudio arbenigol a mentora)
- treuliau anabledd ychwanegol cyffredinol
- costau teithio ychwanegol.
Cofiwch, mae'r lwfansau hyn ond ar gael i fyfyrwyr y DU drwy eich corff ariannu. Mae'r rhain yn cael eu rhoi'n ychwanegol at y pecyn myfyriwr safonol a gewch ac yn amodol ar amryw delerau ac amodau.
Sut i wneud cais
Mae'n bwysig dechrau eich proses ymgeisio am DSA cyn gynted â phosibl, gallwch wneud eich cais trwy'ch corff cyllido cyn dechrau ar eich cwrs neu unrhyw bryd yn ystod eich cyfnod astudio.
Sylwch y gall y broses ymgeisio fod yn wahanol i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a'r rhai sy'n astudio ar gwrs a ariennir gan y GIG a Chynghorau Ymchwil. Edrychwch ar wefan eich corff ariannu am fanylion ar sut i wneud cais.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am wneud eich cais DSA cysylltwch.
Cymru
Gall myfyrwyr o Gymru wneud cais am DSA gyda Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Lloegr
Gall myfyrwyr o Loegr wneud cais am DSA gyda Student Finance England
Yr Alban
Gall myfyrwyr o 'r Alban wneud cais am DSA gyda Students Awards Agency for Scotland
Gogledd Iwerddon
Gall myfyrwyr o Ogledd Iwerddon wneud cais am DSA gyda Student Finance Northern Ireland
Myfyrwyr y GIG a myfyrwyr a ariennir gan ymchwil
Os ydych yn fyfyriwr y GIG neu'n fyfyriwr ymchwil, rhaid i chi wneud apwyntiad gyda chynghorydd anabledd a fydd yn gwneud cais am DSA ar eich rhan. Dyma rai dolenni defnyddiol i wybodaeth am gyllid:
Tystiolaeth ar gyfer eich cais
Pan ydych yn gwneud cais, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i gadarnhau bod gennych anabledd fel y'i diffinnir dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010
Gall tystiolaeth ategol gynnwys llythyr gan feddyg teulu neu feddyg ymgynghorol. Mewn achos o anhawster dysgu penodol, bydd angen adroddiad diagnostig gan asesydd cymwys addas.
Myfyrwyr rhyngwladol
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol ni fyddwch yn gallu gwneud cais am y Lwfans Myfyrwyr Anabl. Byddwn yn gweithio gyda chi i asesu eich anghenion a gweithredu addasiadau rhesymol priodol a chefnogaeth i chi gael mynediad i'ch astudiaethau.
Efallai y bydd cyllid ychwanegol ar gael gan eich llywodraeth gartref neu eich noddwr i dalu am unrhyw gostau ychwanegol sydd gennych oherwydd eich anabledd.
Gofal personol a chymorth
Mae angen gofal a chymorth personol ar rai o’n myfyrwyr i’w helpu â’u bywyd bob dydd fel cymorth gyda choginio, siopa, ymolchi neu wisgo.
Ni roddir y cymorth hwn gan y Brifysgol, ond byddwn yn gweithio gyda chi i roi cyngor a gwybodaeth ar drefnu cymorth â darparwyr ychwanegol a’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Os ydych yn fyfyriwr o'r DU, y Gwasanaethau Cymdeithasol fydd yn gyfrifol am ariannu eich pecyn gofal personol. Os ydych yn fyfyriwr yr UE neu’n fyfyriwr rhyngwladol mae’n bwysig i chi feddwl am sut y byddwch yn ariannu eich cymorth gofal personol (e.e. yn breifat, drwy noddwr neu ymddiriedolaeth elusennol) ac i drefnu’r cymorth hwn cyn i chi ddechrau byw ac astudio yng Nghaerdydd.
Cysylltwch â ni
Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr
Defnyddiwch ein cyfrifiannell costau byw i weld pa mor bell y bydd eich arian yn mynd.