Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogaeth i fyfyrwyr anabl

Diweddarwyd ddiwethaf: 15/08/2024 16:13

Mae ein Gwasanaeth Anabledd yma i'ch cefnogi gyda'r trawsnewid i fywyd prifysgol.

Rydym yn gweithio gyda myfyrwyr ag amrywiaeth o namau corfforol neu synhwyraidd, cyflyrau iechyd hirdymor ac iechyd meddwl, cyflyrau sbectrwm awtistiaeth ac anawsterau dysgu penodol.

Ein nod yw darparu amgylchedd dysgu cynhwysol sy’n galluogi myfyrwyr i astudio mor annibynnol â phosibl drwy sicrhau bod cymorth priodol yn cael ei drafod, ei ystyried a’i roi ar waith ar hyd eich taith fel myfyriwr.

Dywedwch wrthym am eich gofynion mynediad.

Sut a pham ddylech ddatgelu eich anableddau i ni a'r dystiolaeth fydd angen i chi ei chyflwyno.

Cefnogi eich dysgu

Dysgwch am yr addasiadau y gallwn eu rhoi ar waith i'ch cefnogi.

Cymorth ariannol

Gwybodaeth am y cyfleoedd ariannu sydd ar gael i dalu am eich costau cymorth anabledd.

Cysylltwch â ni

Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr