Lawrlwytho Ap y Myfyrwyr
Diweddarwyd: 12/09/2024 14:23
Diben yr ap yw gwella’r profiad o fod yn fyfyriwr a'ch helpu i reoli eich bywyd yn y brifysgol.
Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau’r broses gofrestru ar-lein a chael eich enw defnyddiwr a chyfrinair Prifysgol Caerdydd cewch lawrlwytho Ap y Myfyrwyr am ddim.
Mae fersiwn iOs ac Android ar gael ac ymhlith y nodweddion y mae:
- calendr: ewch i’ch amserlen a'r cyfarwyddiadau i helpu i ddod o hyd i'ch ffordd o amgylch y campws - gall anfon nodiadau atgoffa hyd yn oed ichi allu cyrraedd mewn da bryd!
- dod o hyd i le i astudio: dod o hyd i'r lleoliad perffaith i ganolbwyntio ar eich astudiaethau
- data myfyrwyr: cyrchu’r eich holl ddata myfyriwr mewn un lle, gan gynnwys benthyciadau o’r llyfrgelloedd a chredyd print
- cerdyn adnabod digidol y myfyriwr: fersiwn ddigidol o'ch cerdyn adnabod i'w ddefnyddio i gadarnhau pwy ydych chi os nad yw’r cerdyn adnabod gyda chi
- hysbysiadau gwib: cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn yr hysbysiadau gwib. Os bydd argyfwng, dyma'r ffordd gyflymaf hefyd inni gysylltu â chi
- gwasanaethau cymorth: gallu cyrchu cymorth a chyngor ein gwasanaethau cymorth yn rhwydd a mewngofnodi i apwyntiadau Bywyd Myfyrwyr
- Offer digidol: mynediad cyflym i'n holl offer ac apiau digidol
- porthiant newyddion: cael gwybodaeth ddiweddaraf y Brifysgol
- Darllenydd Codiau QR: cofrestru eich bod yn bresennol mewn darlithoedd a seminarau (os bydd hynny'n berthnasol)
- gweld pa beiriannau sydd ar gael: caiff myfyrwyr yn llety'r Brifysgol weld faint o beiriannau golchi/sychwyr sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd a phryd bydd un ar gael!
Sut i sefydlu'ch dyfais a chysylltu â'ch rhwydwaith diwifr.