Ewch i’r prif gynnwys

Paratowch ar gyfer bywyd yn y brifysgol

Diweddarwyd ddiwethaf: 01/12/2023 10:14

Cwblhewch ein rhaglen gyfeiriadaeth cyn i chi gyrraedd y campws i fod yn gwbl barod ar gyfer bywyd myfyriwr.

Lluniwyd y rhaglen ymgyfarwyddo ar-lein i'ch helpu i baratoi ar gyfer bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd. Er mwyn sicrhau eich bod yn barod ar gyfer eich amser gyda ni, yn y rhaglen mae trosolwg o bynciau fel cymorth i fyfyrwyr, cyfleusterau chwaraeon ac awgrymiadau defnyddiol ar sut i gyllidebu.

Rhennir y rhaglen ymgyfarwyddo yn adrannau o'r enw 'deciau', a cheir deciau penodol i fyfyrwyr rhyngwladol, graddedigion ôl-raddedig a myfyrwyr sy'n astudio ar gampws Parc y Mynydd Bychan.

Cwblhau'r rhaglen ymgyfarwyddo

Rydyn ni’n argymell eich bod yn cwblhau’r rhaglen ymgyfarwyddo ar-lein cyn cyrraedd y campws er mwyn bod yn gwbl barod ar gyfer bywyd myfyriwr. Yn gynnar ym mis Medi, byddwch chi’n cael e-bost gan welcome@caerdydd.ac.uk fydd yn rhoi dolen i'ch rhaglen ymgyfarwyddo. I chi yn unig y mae’r ddolen yn yr ebost, felly, gofalwch mai dim ond y ddolen hon rydych chi’n ei defnyddio i gyrchu’r rhaglen. Cwblhewch bob dec ym mha drefn bynnag sy’n well gennych chi.

Os oes gennych chi gwestiynau neu broblemau wrth gyrchu’r rhaglen, anfonwch ebost at welcome@caerdydd.ac.uk.