Ewch i’r prif gynnwys

Costau byw a chyllidebu

Diweddarwyd: 15/08/2024 12:43

Dysgwch am bwysigrwydd cyllidebu a sut i wneud i'ch arian fynd ymhellach.

Mae cyllidebu yn sgil sy’n ein galluogi i reoli ein harian. Mae theori cyllidebu yn syml, ond gall roi’r theori ar waith fod yn anodd ac mae angen disgyblaeth.

Costau byw ar gyfartaledd

Dim ond hanner y broses o gyllidebu yw gwybod beth faint o arian sydd gennych. Mae angen i chi wybod hefyd faint fyddwch chi’n ei wario fel myfyriwr.

Gall ein cyfrifiannell costau byw eich helpu i ddangos y gost gyfartalog o fyw (wedi’i gyfrifo o wariant myfyrwyr go iawn) yn dibynnu ar eich lefel astudio, a lle rydych chi’n dewis byw.

Myfyrwyr rhyngwladol: Nodwch fod y ffigyrau yn wahanol i’r prawf cynhaliaeth ariannol a fydd angen i chi basio er mwyn cael fisa myfyrwyr Haen 4.

Cyllidebu

Yn syml, cyfrifwch faint o gyllid sy’n dod i mewn a pha gostau sydd rhaid i chi ei dalu. Gall fod yn ddefnyddiol cyllidebu ar sail wythnosau, misoedd neu dymhorau. Gwnewch yr hyn sy’n gweithio orau i chi. Cofiwch gadw golwg ar eich cyfrif banc yn rheolaidd er mwyn osgoi bod mewn argyfwng arian annisgwyl.

Cyfrif banc myfyrwyr

Mae gwneud y mwyaf o’ch cynnyrch ariannol sydd ar gael i chi pan rydych yn fyfyriwr yn eich gwneud yn ddeallus ag arian!

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gyfrifon banc i fyfyrwyr ar Save The Student neu Money Saving Expert.

Cael mwy am eich arian

Syniadau ar gyfer cynyddu eich incwm a lleihau eich gwariant.

Efallai eich bod wedi cael swydd rhan amser cyn dod i’r brifysgol, felly beth am barhau?

Rhagor o wybodaeth am weithio yn ystod eich astudiaethau.

Cerdyn adnabod myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

Yn ychwanegol at roi mynediad i adeiladau'r Brifysgol, gall eich cerdyn adnabod myfyrwyr roi gostyngiad myfyrwyr i chi mewn rhai siopau, sinemâu a bwytai.

NUS (Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr)

Fel myfyriwr, byddwch yn gallu prynu cerdyn TOTUM os hoffech gael un. Os hoffech gael un, byddwch yn gweld eich bod yn gallu prynu nifer o bethau, ticedi sinema, ddillad, deithio, am bris gostynedig. Os ydych yn ansicr os oes rhywle yn cynnig gostyngiad i fyfyrwyr, gofynnwch!

ISIC (International Student Identity Card)

Mae’r cerdyn ISIC ar gael i unrhyw fyfyriwr llawn amser ac yn rhoi gostyngiadau i chi ar deithiau awyr siarter, llety penodol, ticedi sinemâu a mynediad i orielau celf ac amgueddfeydd.

Er mwyn cael cerdyn ISIC, bydd angen llun maint pasbort a thystiolaeth eich bod yn fyfyriwr llawn amser.

Coachcard i Bobl Ifanc

Mae’r Cerdyn Pobl Ifanc yn rhoi 30% o ostyngiad i chi pan yn teithio ar fws National Express yn y DU. I gael cerdyn, yr unig beth sydd angen gwneud yw dangos prawf eich bod yn fyfyriwr. Gallwch brynu Coachcard Pobl Ifanc yn Swyddfeydd Bws National Express neu ar-lein.

Cerdyn Rheilffordd 16-25

Mae'r cerdyn yn rhoi trean o ostyngiad o bris taith rheilffordd (yn amodol i amodau a thelerau) yn y DU. Er mwyn cael y cerdyn bydd angen prawf eich bod yn fyfyriwr, eich pasbort a llun maint pasbort. Gallwch brynu’r cerdyn mewn unrhyw orsaf rheilffordd neu ar wefan y cerdyn rheilffordd.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych am gostau byw neu gyllidebu:

Cyngor ac Arian Myfyrwyr