Dyddiadau allweddol yn y flwyddyn academaidd
Diweddarwyd: 06/08/2024 16:30
Boed yn ddyddiadau semester neu’n derfynau amser o ran Cyllid Myfyrwyr, dyma rai dyddiadau allweddol i'w rhoi yn eich calendr.
Efallai y bydd gan rai rhaglenni ôl-raddedig, anfodiwlaidd, neu raglenni sy'n gysylltiedig ag iechyd ddyddiadau semester gwahanol - cyfeiriwch at y dyddiadau y bydd eich ysgol yn eu rhoi.
Blwyddyn academaidd 2024/25
Gweithgarwch | Dechrau | Gorffen |
---|---|---|
Dyddiad cau er mwyn newid ceisiadau i Gyllid Myfyrwyr | Dydd Sul 1 Medi 2024 | |
Digwyddiadau Wythnos y Glas Undeb y Myfyrwyr | Dydd Llun 16 Medi 2024 | Dydd Sul 29 Medi 2024 |
Wythnos ymsefydlu | Dydd Llun 23 Medi 2024 | Dydd Gwener 27 Medi 2024 |
Semester yr Hydref | Dydd Llun 30 Medi 2024 | Dydd Sul 26 Ionawr 2025 |
Gwyliau’r Nadolig | Dydd Sadwrn 14 Rhagfyr 2024 | Dydd Sul 5 Ionawr 2025 |
Cyfnod yr arholiadau | Dydd Llun 13 Ionawr 2025 | Dydd Gwener 24 Ionawr 2025 |
Semester y Gwanwyn | Dydd Llun 27 Ionawr 2025 | Dydd Gwener 13 Mehefin 2025 |
Ailymgeisio i Gyllid Myfyrwyr | Gallwch chi wneud cais o fis Ebrill 2025 ymlaen. | |
Gwyliau’r Pasg | Dydd Sadwrn, 12 Ebrill 2025 | Dydd Sul 4 Mai 2025 |
Cyfnod yr arholiadau | Dydd Llun 12 Mai 2025 | Dydd Gwener 13 Mehefin 2025 |
Cyfnod ailsefyll arholiadau | Dydd Llun 11 Awst 2025 | Dydd Gwener 22 Awst 2025 |
Gweld y dyddiadau semester ar gyfer y blynyddoedd academaidd nesaf.
Dyddiadau talu ffioedd dysgu
Os ydych chi’n hunanariannu, mewngofnodwch i SIMS i weld y dyddiadau talu ffioedd dysgu a'ch symiau.
Os oes gennych chi fenthyciad myfyriwr israddedig i dalu eich ffioedd dysgu, bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn ei dalu inni’n uniongyrchol.
Gwybodaeth am eich rhaglen ymsefydlu, digwyddiadau croeso a'ch amserlen.