Ewch i’r prif gynnwys

Cyngor cyllid

Diweddarwyd: 15/08/2024 12:41

Osgoi oedi cyn derbyn eich cyllid.

Unwaith y byddwch chi wedi cyflwyno cais i'r corff ariannu perthnasol, wedi darparu’r holl dystiolaeth ofynnol ac mae’ch corff cyllido wedi cwblhau asesiad, byddwch chi’n cael eich hysbysu o'ch hawl i gyllid naill ai drwy'ch cyfrif ar-lein gyda'ch corff cyllido myfyrwyr neu drwy'r post.

Gall gymryd tua 6 wythnos i gorff cyllido brosesu cais, yn dibynnu ar bryd y gwnaethoch chi’r cais.

Pan fyddwch chi’n derbyn cadarnhad o'ch cyllid, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio bod y brifysgol, y cwrs a'r flwyddyn astudio yn gywir ar y llythyr. Os yw unrhyw ran o'r wybodaeth hon yn anghywir, yna mae angen i chi addasu/diweddaru eich cais cyn gynted â phosibl.

Addasu'ch cais

Os oes angen i chi addasu eich cais, ac rydych chi’n cael eich ariannu'n llawn gan Cyllid Myfyrwyr Cymru, Student Finance England, Student Finance Northern Ireland neu Student Awards Agency Scotland, mewngofnodwch i'ch cyfrif cyllid myfyrwyr ar-lein cyn 1 Medi. Gall addasiadau i geisiadau gymryd tua 20 diwrnod gwaith i'w prosesu.

Os oes angen i chi wneud unrhyw addasiadau i'ch cais ar ôl y dyddiad cau, sef 1 Medi, neu os ydych chi’n cael eich ariannu gan Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, bydd einTîm Cyllid a Chyngor yn gallu eich helpu.

Cyllid ar gyfer myfyrwyr y broses Glirio

Os ydych chi'n ymuno â ni drwy’r broses Glirio, dysgwch sut i diweddaru eich cais am gyllid ac osgoi oedi posibl wrth gael eich cyllid.

Cael eich cyllid

Deall sut a phryd byddwch chi’n cael eich cyllid, ac osgoi oedi.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gyllid myfyrwyr neu gyllid arall cysylltwch â:

Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr