Cwblhewch eich gosodiadau TG
Diweddarwyd: 10/09/2024 12:06
Ar ôl i chi gofrestru ar-lein yn llwyddiannus, bydd gennych fynediad at ystod o adnoddau digidol, cymwysiadau TG a meddalwedd.
Eich rhestr wirio TG
Cwblhewch y camau hyn i orffen sefydlu eich cyfrif TG, cael mynediad at offer digidol, a pharatoi i ddefnyddio WiFi ar y campws.
Mewngofnodi i fewnrwyd y myfyrwyr
Ar ôl i chi gwblhau’r broses gofrestru ar-lein, byddwch chi’n gallu defnyddio mewnrwyd y myfyrwyr. Y fewnrwyd yw eich porth i’r holl offer, cymwysiadau, adnoddau a gwasanaethau y bydd eu hangen arnoch chi drwy gydol eich bywyd fel myfyriwr.
Os ydych chi'n chwilio am rywbeth penodol, defnyddiwch y swyddogaeth chwilio ar yr hafan lle gwelwch hefyd y newyddion, digwyddiadau a'r dolenni poblogaidd diweddaraf.
Gosod Dilysu Aml-Ffactor
Bydd angen i chi osod Dilysu Aml-Ffactor (MFA) cyn y gallwch chi gael mynediad at rai o systemau’r brifysgol, fel eich ebost, apiau Microsoft 365 a mynediad o bell at gymwysiadau.
Mae MFA yn cynnig haen ychwanegol o ddiogelwch i'ch cyfrif prifysgol ac yn rhan bwysig o ddiogelu eich data. Mae’n gwneud hyn drwy ddilysu eich ymgais i fewngofnodi ar ddyfais arall. Mewngofnodwch i fewnrwyd y myfyrwyr i ddysgu sut i osod a defnyddio MFA.
Lawrlwytho a gosod Microsoft 365
Gallwch osod apiau Microsoft 365 am ddim ar hyd at bum cyfrifiadur (Windows neu Mac) a hyd at bum dyfais symudol (iOS neu Android) a’u defnyddio cyhyd â’ch bod yn gweithio neu’n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mewngofnodwch i fewnrwyd y myfyrwyr i lawrlwytho a gosod Microsoft 365.
Dod i adnabod ein platfformau a'n hoffer dysgu digidol
Mewngofnodwch i fewnrwyd y myfyrwyr i ddysgu am yr offer a'r platfformau rydyn ni’n eu defnyddio ar gyfer addysgu, dysgu ac asesiadau. Bydd eich ysgol hefyd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am yr offer a'r platfformau hyn yn eich sesiwn sefydlu.
Diogelu eich gwybodaeth bersonol
Ni fydd Prifysgol Caerdydd byth yn:
- anfon ebost atoch yn gofyn i chi ddilysu eich cyfrif ebost
- eich rhybuddio bod eich blwch post yn llawn
- gofyn i chi am eich cyfrinair
Peidiwch â rhoi gwybodaeth bersonol neu ariannol, fel manylion banc neu'ch PIN, dros y ffôn, hyd yn oed os yw'r galwr yn honni ei fod o sefydliad adnabyddus a dibynadwy, fel eich banc neu'r brifysgol.
Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch pwy sy’n cysylltu â chi, peidiwch ag ymateb a chysylltwch â ni drwy ein sianeli swyddogol i gadarnhau a yw'r cyswllt yn ddilys.
Lawrlwythwch ein meddalwedd gwrthfeirysau am ddim
Gallwch lawrlwytho a defnyddio copi am ddim o’r feddalwedd gwrthfeirysau Sophos Home ar fewnrwyd y myfyrwyr.
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi
Rydyn ni’n defnyddio ystod eang o sianeli cyfathrebu â myfyrwyr i'ch cadw mewn cysylltiad â'n cymuned a sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi.
Eich ebost yn y brifysgol
Gwiriwch eich ebyst yn rheolaidd i wneud yn siŵr eich bod yn cael gwybodaeth bwysig sy’n berthnasol i chi. Bydd ebyst y Brifysgol yn dod o gyfeiriad @caerdydd.ac.uk ac maen nhw’n cynnwys:
Negeseuon gan y Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr
Mae ein Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr, Claire Morgan, yn ysgrifennu at yr holl fyfyrwyr yn rheolaidd. Gallai negeseuon brys neu bwysig hefyd gael eu hanfon drwy’r sianel hon.
Negeseuon gan eich ysgol academaidd
Mae'r negeseuon hyn yn ymwneud yn benodol â'ch ysgol, eich cwrs, ac unrhyw ddiweddariadau a allai effeithio arnoch chi a'ch astudiaethau.
Newyddion Myfyrwyr
Newyddion Myfyrwyr yw ein ebost wythnosol a'n prif ffordd o rannu’r newyddion diweddaraf gyda chi. Mae'n cynnwys crynodeb o’r newyddion a straeon myfyrwyr, ac mae’n cael ei anfon at yr holl fyfyrwyr bob dydd Llun.
Ebyst wedi'u teilwra
Rydyn ni’n anfon ebyst rheolaidd at grwpiau sy'n byw yn neuaddau preswyl y brifysgol a myfyrwyr sydd wedi cofrestru gyda'n Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr.
Ap y Myfyrwyr
Lawrlwythwch Ap y Myfyrwyr i gael hysbysiadau a’r newyddion diweddaraf. Gallwch weld eich amserlen, cael cymorth, a dod o hyd i adeiladau’r brifysgol.
Os bydd argyfwng, dyma hefyd y ffordd gyflymaf i ni gysylltu â chi a rhoi gwybod i chi beth sy’n digwydd.
Y cyfryngau cymdeithasol
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael awgrymiadau gwych ar helpu eich dysgu, cymorth lles, dolenni i adnoddau defnyddiol, sesiynau ‘myfyrwyr yn meddiannu’, a newyddion y brifysgol. Gallwch chi ddod o hyd i ni ar:
Cymorth a chefnogaeth TG
Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi gysylltu â ni:
- dewch i’n gweld ni yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr i gael cymorth TG wyneb yn wyneb
- ffoniwch ni 24/7 ar +44 (0)29 2251 1111 (efallai na fydd modd datrys rhai ceisiadau yn ystod yr wythnos rhwng 17:00 a 08:00, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau banc)
Os byddwch yn cael eich cloi allan o'ch cyfrif, defnyddiwch yr opsiwn Wedi anghofio eich cyfrinair? ar dudalen mewngofnodi’r fewnrwyd i ailosod eich cyfrinair.
Sut i sefydlu'ch dyfais a chysylltu â'ch rhwydwaith diwifr.