TG ac offer
Diweddarwyd: 01/08/2024 15:08
Gwybodaeth am yr offer TG y bydd ei angen arnoch chi.
Gofynion TG
Wrth i ni ddefnyddio dull cyfunedig o gyflwyno rhaglenni yn y flwyddyn academaidd newydd, mae’n bwysig bod gennych chi’r cyfarpar angenrheidiol sy’n ofynnol ar gyfer dysgu effeithiol o bell.
Bydd angen bod gennych chi fynediad at gyfrifiadur dibynadwy; rydym ni’n awgrymu bod angen, o leiaf, cyfrifiadur pen desg neu liniadur sydd â Windows 10 neu uwch, neu gyfrifiadur pen desg neu liniadur ag OS X 10.13 neu uwch. Bydd arnoch chi angen seinyddion (neu glustffonau), gwe-gamera a meicroffon. Er bod tabled yn ddefnyddiol fel ail ddyfais, dydyn ni ddim yn argymell mai dyna eich unig beiriant ar gyfer astudio.
Bydd angen i chi sicrhau bod gennych chi fynediad priodol i’r rhyngrwyd - cyflymder rhyngrwyd o 3Mb yr eiliad o leiaf. Peidiwch ag anghofio bod rhai darparwyr rhyngrwyd yn gorfodi cap misol ar ddata; gwiriwch a oes gan eich darparwr gwasanaeth gap ar ddata (yn arbennig yn achos datrysiadau symudol fel donglau), os yw eich defnydd yn y gorffennol wedi bod yn agos at derfyn y cap, ac os bydd angen estynnwch eich lwfansau data misol neu symudwch i wasanaeth heb gap.
Bydd angen hefyd bod gennych chi fynediad at Microsoft Office ac amddiffyniad yn erbyn feirysau, y gallwch eu lawrlwytho yn ddi-dâl fel un o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
I fyfyrwyr sy’n cael trafferthion ariannol ac yn methu talu am gostau hanfodol, gallai help fod ar gael drwy’r Rhaglen Cymorth Ariannol.
Yn olaf, mae’n bleser gennym roi gwybod i chi fod ein hadnodd dysgu digidol i fyfyrwyr yn awr yn gyflawn ac yn gwbl ddwyieithog. Rydyn ni’n gobeithio bydd hwn yn adnodd defnyddiol i chi baratoi ar gyfer y flwyddyn sy’n dod, ond hefyd i gyfeirio’n ôl ato ar hyd y flwyddyn.
Cynllun ariannu gliniaduron ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio Therapi Deintyddol a Hylendid neu bynciau Gwyddorau Gofal Iechyd
A chithau’n fyfyriwr cyn-gofrestru o Gymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon sy'n astudio Therapi Deintyddol a Hylendid neu un o raglenni Gwyddorau Gofal Iechyd, efallai y byddwch chi’n gymwys i gael gliniadur i'ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau.
O ran Cymru, Lloegr a’r Alban, myfyrwyr sy’n gymwys yw’r rheini y mae eu cyfeiriad cartref cofrestredig yn cael eu canfod (yn ôl y côd post) yn negraddau 1 neu 2 (0-20%) o’r ‘Mynegai Amddifadedd Lluosog’ perthnasol. Gallwch chi weld beth yw eich statws chi yma. O ran Gogledd Iwerddon, mae cymhwysedd yn seiliedig ar godau post sydd wedi'u rhestru 1-178 o 'brif raddfa amddifadedd lluosog' y gellir eu gwirio ar chwiliad gwe Mynegai Amddifadedd Lluosog Gogledd Iwerddon.
Mae rhaglenni cymwys yn cynnwys Therapi Deintyddol a Hylendid, Radiograffeg a Delweddu Diagnostig, pob maes Nyrsio, Bydwreigiaeth, Radiotherapi ac Oncoleg, Therapi Galwedigaethol a Ffisiotherapi.
Bydd gwybodaeth bellach am y cynllun, gan gynnwys y ddyfais, gwirio cymhwysedd a chasglu gliniaduron ar gyfer myfyrwyr cymwys, yn cael ei chyfleu i ddeiliaid cynigion trwy gydol y cylch recriwtio myfyrwyr/deiliaid cynigion.
Bydd rhagor o wybodaeth am gasglu dyfeisiau yn cael ei darparu yn nes at gofrestru ac ymsefydlu ar gyfer derbyniad yr hydref a'r gwanwyn o leoedd myfyrwyr a gadarnhawyd.