Iechyd galwedigaethol
Diweddarwyd: 22/07/2024 08:48
Gan fod eich iechyd a lles yn hanfodol bwysig i'ch gyrfa yn y dyfodol, bydd angen i chi gyflawni tasgau penodol cyn y bydd modd i chi fynd ar leoliad clinigol.
Dilynwch y camau isod i sicrhau eich bod yn barod o ran eich iechyd i fynychu'ch lleoliad clinigol.
1 - Cwblhau holiadur cyn y cwrs
Mae agwedd hanfodol ar eich cais i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnwys cwblhau dogfennau iechyd ar gyfer Iechyd Galwedigaethol Myfyrwyr, sy'n cynnwys holiadur cyn dechrau eich cwrs.
Ar gyfer cyrsiau priodol sy'n gysylltiedig ag iechyd, bydd gofyn i chi gwblhau Holiadur Sgrinio Iechyd drwy'r feddalwedd glinigol Iechyd Galwedigaethol Myfyrwyr o'r enw 'Cority'.
Dylech gael copi wedi'i sganio o'ch gwybodaeth frechu wrth law cyn i chi ddechrau eich holiadur, bydd gofyn i chi uwchlwytho copi o hyn.
Unwaith y bydd eich holiadur wedi'i gyflwyno, ni ellir ei newid.
Cyfeiriwch at y canllaw cymorth i'ch tywys drwy lenwi'ch holiadur.
Cwblhewch yr Holiadur Iechyd Galwedigaethol cyn y cwrs
Cyrsiau | Cod | Disgrifiad |
---|---|---|
Baglor mewn Nyrsio (Oedolion) derbyniad y Gwanwyn (BN) | COH-203 | Adult Nurse (Spring 2024)) |
Dychwelwch i Ymarfer (Nyrsio) | COH-205 | Return to Practice (Spring 2024) |
Llawfeddygaeth ddeintyddol (BDS) | COH-185 | Dentist (Autumn 2024) |
Deintyddiaeth Glinigol (MClinDent) | COH-153 | Dental PG (Autumn 2024) |
Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol (BSc) | COH-186 | Dental Therapy & Hygiene - Deg (Autumn 2024) |
Hylendid Deintyddol (DipHE) | COH-200 | Dental Hygiene - Dip (Autumn 2024) |
Meddygaeth (MBBCh) | COH-181 | Medicine (Autumn 2024) |
Meddygaeth (MBBCh) - Myfyrwyr Rhyngwladol | COH-201 | Medicine (International Student - Autumn 2024) |
Meddygaeth: Mynediad i raddedigion (MBBCh) | COH-184 | GEM (Autumn 2024) |
Athro mewn Fferylliaeth (MPharm) | COH-176 | Pharmacy (Autumn 2024) |
Baglor mewn Nyrsio (Oedolion) Derbyniad yr Hydref (BN) | COH-189 | Adult Nurse (Autumn 2024) |
Baglor mewn Nyrsio (Plant) (BN) | COH-187 | Child Nurse (Autumn 2024) |
Baglor mewn Nyrsio (Gofal Iechyd) derbyniad yr Hydref (BN) | COH-180 | Mental Health Nurse (Autumn 2024) |
Bydwreigiaeth (BMid) | COH-179 | Midwifery (Autumn 2024) |
Ffisiotherapi (BSc) | COH-175 | Physiotherapy (Autumn 2024) |
Ffisiotherapi (MSc) | COH-174 | Physiotherapy - MSc (Autumn 2024) |
Therapi Galwedigaethol (BSc) | COH-178 | OT (Autumn 2024) |
Therapi Galwedigaethol (MSc) | COH-177 | OT - Postgraduate (Autumn 2024) |
Radiotherapi ac Oncoleg (BSc) | COH-172 | Radiotherapy-Onc (Autumn 2024) |
Radiograffeg a Delweddu Diagnostig (BSc) | COH-173 | Radiotherapy-Diag (Autumn 2024) |
Gwaith Cymdeithasol (MA) | COH-171 | Social Work (Autumn 2024) |
Ymwelydd Iechyd | COH-182 | Health Visitor (Autumn 2024) |
Cwnsela Genetig a Genomig (MSc) | COH-183 | Genetic and Genomic Counselling (Autumn 2024) |
Optometreg (MOptom) | COH-202 | Optometry (Autumn 2024) |
2 - Derbyn rhestr brechiadau wrth eich Meddyg Teulu
Caiff eich hanes o ran brechiadau ei adolygu fel rhan o’ch Asesiad Iechyd Galwedigaethol. Mae’n hanfodol eich bod yn darparu eich cofnodion mwyaf cyfredol o ran brechiadau er mwyn llywio penderfyniadau ynglŷn â lleoliad clinigol, elfen allweddol o’ch cwrs gradd.
Mae lleoedd a all gadw gwybodaeth am frechiadau rydych wedi’u cael yn cynnwys:
- eich Practis Meddyg Teulu cofrestredig (os ydych newydd gofrestru mewn practis, cysylltwch â’ch un blaenorol)
- adran Iechyd Galwedigaethol eich cyflogwr blaenorol
- clinigau teithio yr aethoch iddynt ar gyfer brechiadau ‘gwyliau’
- Iechyd Plant o'r ardal lle'r oeddech yn blentyn. Os nad ydych yn siŵr, gallwch gysylltu â Iechyd Plant Caerdydd ar +44 (0)2921 836919 a byddwn yn eich cynorthwyo
Efallai fydd cost ar gyfer mynediad.
Os na allwch gael eich gwybodaeth am frechiadau cyn cyflwyno’r holiadur, ebostiwch y wybodaeth cyn gynted â phosibl i studenthealthapplicants@caerdydd.ac.uk gyda:
- eich enw llawn
- eich dyddiad geni
- y cwrs rydych yn bwriadu ei astudio
3 - Nyrs Iechyd Galwedigaethol
Ar eich diwrnod cyntaf, byddwch yn cael apwyntiad i fynychu ymgynghoriad gyda nyrs o'r adran iechyd galwedigaethol. Mae'r apwyntiad hwn yn orfodol fel rhan o'ch cwrs gofal iechyd.
Bydd y cynghorydd iechyd galwedigaethol yn gwirio'r brechiadau rydych eisoes wedi eu derbyn yn erbyn rhestr o frechiadau sydd angen i chi i'w cael cyn y gallwch chi fynd ar leoliad clinigol. Os oes rhai yn eisiau gyda chi, yna byddwn yn rhoi apwyntiad (au) pellach i chi gael y brechiadau. Mae'n hanfodol eich bod chi'n mynychu'r apwyntiadau hyn oherwydd os nad ydych yn ymgymryd â brechlynnau a phrofion gwaed, gall hyn effeithio'ch lleoliad clinigol.
Lleoliad clinigol
Unwaith eich bod chi wedi mynychu eich holl apwyntiadau, bydd Iechyd Galwedigaethol yn anfon cadarnhad i ni fod eich brechiadau oll yn gyfredol a'ch bod yn gymwys i fynychu'ch lleoliad clinigol.
Os nad ydych chi'n cael eich holl frechiadau, bydd Iechyd Galwedigaethol yn rhoi gwybod i'r Adran nad ydych wedi derbyn cymeradwyaeth i fynd ar leoliad clinigol.