Ffitrwydd i ymarfer
Diweddarwyd: 22/07/2024 08:46
Dylech chi wneud yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw union ystyr addasrwydd i ymarfer cyn ymrestru ar unrhyw un o'r rhaglenni.
Diben hyn yw gwneud yn siŵr y byddwch chi’n barod i ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol tra eich bod yn astudio ac ar ôl ennill eich cymhwyster. Un o gyfrifoldebau’r rheoleiddwyr statudol yw gwneud yn siŵr bod eu haelodau yn addas i ymarfer.
I gael rhagor o wybodaeth am addasrwydd i ymarfer, ewch i’r tudalennau perthnasol ar wefannau Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal, y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, y Cyngor Meddygol Cyffredinol a’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol.
Anghenion corfforol a meddyliol y rhaglen Ffisiotherapi (BSc).