Ewch i’r prif gynnwys

Talu am eich llety

Diweddarwyd: 01/07/2024 15:33

Sut i dalu am eich amser mewn preswylfeydd yn dibynnu ar eich trefniant.

Os ydych chi’n aros yn llety Unite, bydd y manylion talu’n cael eu cynnwys yn y wybodaeth a gaiff ei hanfon atoch chi gan Unite ar ôl ichi gael lle.

Mae rhent yn daladwy drwy un o'r dulliau canlynol:

  • Cerdyn credyd/debyd yn llawn ymlaen llaw neu ar ôl cyrraedd
  • Ddebyd Uniongyrchol o gyfrif banc yn y Deyrnas Unedig (sy'n daladwy mewn uchafswm o 3 rhandaliad ar ddyddiadau penodol, gan ddibynnu ar eich cyfnod contract). Mae angen sefydlu eich Debyd Uniongyrchol gyda ni erbyn 1 Hydref, neu bydd angen i chi dalu â cherdyn credyd/debyd.
    Noder: mae'r Debyd Uniongyrchol hwn yn cynnwys rhent yn unig. Bydd angen i chi gwblhau gorchymyn ar wahân ar gyfer eich ffioedd dysgu.

Yr unig eithriadau i’r dulliau talu hyn yw:

Myfyrwyr a noddir

Os bydd eich rhent yn cael ei dalu’n uniongyrchol i ni gan eich noddwr, dewiswch ‘Rhandaliadau sy’n cael eu talu gan noddwr’ fel eich dull talu ac anfonwch gopi o’ch llythyr Affidafid yn cadarnhau eich statws noddedig i Incwm Gwasanaethau Campws: studentconnect@caerdydd.ac.uk. Ar ôl i chi gyrraedd Caerdydd, byddwn yn anfon anfoneb at eich noddwr ar gyfer eich Rhent.

Bwrsariaeth y GIG/tâl misol

­      Os byddwch yn derbyn tâl misol o Fwrsariaeth y GIG, gallwch neud cais i talu eich rhent mewn rhandaliadau misol cyfartal trwy gynllun talu misol. Dewiswch ‘Rhandaliadau drwy Ddebyd Uniongyrchol' ac yna 'Heb gyfrif banc yn y DU' ar y sgrîn hon. Yna anfonwch gadarnhad o'ch bwrsariaeth at Incwm Gwasanaethau'r Campws: studentconnect@caerdydd.ac.uk. Bydd Incwm Gwasanaethau'r Campws yn cadarnhau eu bod yn derbyn eich cynllun taliad ar ôl cael tystiolaeth o'ch taliad misol ac yn fuan wedi i chi gyrraedd.

Os nad yw'r un o'r opsiynau hyn yn addas i'ch amgylchiadau chu, dewiswch ‘Rhandaliadau drwy Ddebyd Uniongyrchol' ac yna 'Heb gyfrif banc yn y DU' ar y sgrîn hon. Cysylltwch ag Incwm Gwasanaethau'r Campws a fydd yn trafod yr opsiynau talu eraill gyda chi.

Talu drwy Ddebyd Uniongyrchol

Wrth dderbyn eich contract ar-lein, gofynnir ichi roi manylion i drefnu Debyd Uniongyrchol.

Os hoffech chi dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol o gyfrif banc yn y DU (uchafswm o 3 rhandaliad ar ddyddiadau penodol, gan ddibynnu ar gyfnod eich contract), dylech chi ddewis 'Rhandaliadau drwy Ddebyd Uniongyrchol' wrth dderbyn eich contract ar-lein. Byddwch chi wedyn yn gallu rhoi eich manylion i drefnu Debyd Uniongyrchol ar-lein. Os bydd eich rhent yn cael ei dalu o gyfrif banc rhywun arall, dylech chi hefyd ddewis yr opsiwn hwn, a bydd deiliad y cyfrif yn gallu rhoi eu manylion i drefnu Debyd Uniongyrchol ar-lein.

Os ydych chi'n fyfyriwr tramor sydd heb gyfrif banc yn y DU eto, dewiswch 'Heb gyfrif banc yn y DU'. Pan fyddwch chi wedi agor cyfrif banc yn y DU, mewngofnodwch i SIMS eto er mwyn rhoi’r manylion hyn. Os na fyddwch chi wedi trefnu Debyd Uniongyrchol erbyn 1 Hydref 2024, bydd angen ichi dalu eich rhent â cherdyn credyd/debyd.

Cyfrifon banc/cymdeithas adeiladu

Os byddwch chi’n talu eich rhent drwy Ddebyd Uniongyrchol a’ch bod chi heb gyfrif banc/cymdeithas adeiladu yn y DU, bydd angen ichi agor un cyn gynted â phosibl. Mae gan nifer o'r prif fanciau ganghennau sy'n hawdd eu cyrraedd ar y prif gampws. Fel arall, efallai y gallwch chi agor cyfrif ar-lein cyn dod i Gaerdydd. Er mwyn agor cyfrif banc, efallai y bydd angen ichi ddangos prawf o'ch cyfeiriad.

Mae ein canllawiau ar dalu rhent yn cynnwys manylion banciau yng Nghaerdydd sydd â Chynghorwyr Myfyrwyr.

Hysbysiad talu

Ychydig wythnosau cyn pob dyddiad talu, fe gewch hysbysiad talu i roi gwybod i chi pryd bydd y Debyd Uniongyrchol yn cael ei gymryd a faint fydd y taliad. Mae hyn yn eich galluogi i wneud yn siŵr bod digon o arian yn y cyfrif.

Bydd yn cael ei anfon i’ch cyfeiriad ebost Prifysgol Caerdydd ac unrhyw gyfeiriad ebost arall sydd gennym ar eich cyfer. Mae’n bwysig eich bod chi’n cadw llygad ar eich cyfrifon ebost yn rheolaidd. Gallai’r neges gael ei thrin fel sbam gan rai darparwyr ebost, felly cofiwch edrych yn eich ffolder sothach/sbam yn ogystal â’ch blwch derbyn.

Dyma ddyddiadau'r taliadau ar gyfer sesiwn 2024/2025:

  • 23 Hydref 2024
  • 22 Ionawr 2025
  • 7 Mai 2025

Os ydych yn rhagweld anhawster talu eich rhent, er enghraifft, o ganlyniad i'ch cyllid myfyrwyr yn hwyr, neu oherwydd eich bod yn derbyn Bwrsariaeth GIG fisol, cysylltwch ag Incwm Gwasanaethau'r Campws drwy ebostio studentconnect@caerdydd.ac.uk cyn gynted ag y gwyddoch am hyn. Bydd angen eich rhif myfyriwr arnoch pan fyddwch yn cysylltu â ni.

Os oes gennych broblem â'ch cyllid, cysylltwch â'r Tîm Cyllid a Chyngor i Fyfyrwyr am gymorth.

Ymholiadau rhent

Cysylltwch ag Incwm Gwasanaeth Cwsmeriaid os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os ydych am gael derbynneb ar gyfer eich taliad.

Bydd angen eich rhif myfyriwr arnoch pan fyddwch yn cysylltu â ni.

Incwm Gwasanaethau'r Campws