Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleoedd PhD Hodge

Bydd y Ganolfan Hodge newydd yn meithrin cysylltiadau agos â phartneriaid mewn diwydiant, y GIG a sefydliadau eraill i wella cydweithio, a chyflymu’r broses o droi ymchwil yn driniaethau.

Bydd y Ganolfan yn cymryd canfyddiadau ymchwil diweddaraf gan ymchwilwyr niwrowyddoniaeth o safon fyd-eang y Brifysgol ac yn eu defnyddio i ddatblygu cyffuriau a therapïau newydd ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl difrifol.

Rhwng 2023 a 2028, bydd y ganolfan yn darparu 18+ ysgoloriaeth PhD a ariennir yn llawn. Bydd rhaglen ysgoloriaeth PhD Hodge yn hyfforddi ac yn meithrin yr ymchwilwyr ifanc disgleiriaf yn y sgiliau sydd eu hangen i fynd i'r afael â phroblem gymhleth anhwylderau'r ymennydd.

Bydd pob ysgoloriaeth ymchwil yn talu ffioedd dysgu yn y cartref, cyflog ar gyfradd UKRI a chyfraniad hael tuag at gostau traul pob prosiect

Ar hyn o bryd rydym yn cefnogi ein chwe myfyriwr ymchwil ôl-raddedig cyntaf. Rydym yn bwriadu ariannu saith ysgoloriaeth ymchwil ychwanegol y flwyddyn ar gyfer derbyniadau mis Hydref yn 2024 a 2025.

Cyfleoedd Presennol

Dulliau genomeg-gyntaf o nodi targedau cyffuriau newydd i drin anhwylderau seicotig

Mae profiadau seicotig (rhith-weld pethau, gweld lledrithiau) yn digwydd yn rhan o sawl math o salwch meddwl, yn enwedig y cyflyrau mwyaf difrifol, sef sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol. Mae’r driniaeth ar gyfer y rhain yn aml yn seiliedig ar feddyginiaethau gwrthseicotig ar bresgripsiwn, sef math o gyffuriau sy’n targedu derbynyddion dopamin yn bennaf. Er y gall y rhain fod yn effeithiol, nid oes un cyffur “rheng flaen” a gaiff ei dderbyn yn eang y mae’r mwyafrif o bobl yn ymateb iddo.

Mae angen i bob unigolyn gael ei drin drwy broses o dreialu a methu a all gymryd blynyddoedd i’w hoptemeiddio, ac mewn rhai achosion, nid oes triniaeth effeithiol yn bodoli. Gan mai prin yw’r ddealltwriaeth sydd gennyn ni o hyd o’r fioleg sylfaenol sy'n gysylltiedig â seicosis, mae dyfeisio triniaethau newydd i ddisodli’r cyffuriau a ddefnyddir ar hyn o bryd neu eu hategu yn beth anodd. Mae ymchwil sy’n defnyddio data genomig pobl â seicosis yn gallu amlygu genynnau a llwybrau biolegol sy’n cyfrannu at y risg o ddatblygu’r cyflyrau hyn, ond mae degawdau o waith ymchwil wedi dangos bod angen i filoedd o unigolion gael eu dadansoddi er mwyn gwneud darganfyddiadau dibynadwy.

Bydd y cynnig PhD hwn yn defnyddio’r samplau mwyaf yn y byd o bobl sydd â sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol, ar y cyd â’r Consortiwm Genomeg Seiciatrig. Ei nod cyntaf yw defnyddio biowybodeg o'r radd flaenaf i ddod o hyd i brosesau biolegol sy'n cysylltu sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol, yn ogystal â chyflyrau eraill ar y sbectrwm anhwylderau seicotig. Bydd y genynnau a'r amrywiolion genetig sy’n dod i’r amlwg yn rhan o’r prosiect hwn yna’n cael eu cysylltu â data ar symptomau seicotig a chanlyniadau triniaethau mewn carfannau eraill o Brifysgol Caerdydd a llwyfan iechyd meddwl y DU. Bydd y dystiolaeth genomeg sy’n deillio o hynny yn caniatáu i’r ymgeisydd arwain ar ymdrech i nodi targedau therapiwtig newydd drwy weithio mewn partneriaeth â Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd, wedi’i chefnogi gan Takeda Pharmaceuticals.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â Dr Antonio Pardinas, PardinasA@caerdydd.ac.uk

Gall y prosiect hwn ddechrau naill ai ym mis Gorffennaf 2025 neu fis Hydref 2025.

Cewch ffurflenni cais a rhagor o wybodaeth am wneud cais am y prosiect hwn gan e-bostio HodgeAdmin@caerdydd.ac.uk.

Mae'r holl wybodaeth hefyd ar gael ar wefan Find a PhD.

Ymholiadau

Dylid cyfeirio pob ymholiad cyffredinol at:

Julie Cleaver

Julie Cleaver

Administrative Officer, Neurosciences & Mental Health Research Institute

Email
cleaverj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8341