Defnyddio genomeg gyda data mawr
Mae'r Brifysgol Caerdydd yn cynnal ymchwil sy'n arwain y byd ym maes genomeg ac mae ganddi fynediad at garfannau mawr o gleifion wedi’u genoteipio ac a aseswyd yn glinigol o asedau strategol allweddol y Brifysgol. Mae’r asedau hyn yn cynnwys y Ganolfan Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, y Sefydliad Ymchwil Dementia, a Chanolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd.
Yn gynyddol, rydym yn integreiddio ein hymchwil genomig â dulliau gwyddor data uwch mewn partneriaeth â’r GIG, byd diwydiant, a Sefydliad Arloesedd Trawsnewid Digidol y Brifysgol.
Mae gan waith i gyfuno genomeg â phŵer data mawr botensial mawr i roi syniadau newydd ynglŷn â haeniad anhwylderau’r ymennydd a datblygu llwybrau at driniaeth bersonol.