Manteisio ar bŵer niwrowyddoniaeth
Her fawr yw trosi canfyddiadau genomig yn fioleg sy'n berthnasol i glefydau.
I ateb yr her hon, rydym yn gweithio ar y cyd â Chanolfan Niwrowyddoniaeth Drosiadol Hodge, Sefydliad Waterloo, a rhannau eraill o ecosystem niwrowyddoniaeth y Brifysgol mewn meddygaeth, seicoleg, y biowyddorau ac optometreg.
Rydym yn defnyddio dulliau niwrowyddoniaeth amlddisgyblaethol gan gynnwys dulliau sy’n seiliedig ar fôn-gelloedd dynol, delweddu’r ymennydd, niwroseicoleg, a niwroimiwnoleg i ddeall effaith ffactorau risg ar weithrediad yr ymennydd, i ddatblygu biofarcwyr ar gyfer ymyrraeth gynnar, ac i ddatgelu mecanweithiau pathogenig sy’n gallu llywio’r gwaith o ddatblygu therapïau.