Canolfan Niwrowyddoniaeth Drosi Hodge
Bydd Canolfan Niwrowyddoniaeth Drosi Hodge yn troi darganfyddiadau genetig yn driniaethau newydd i gleifion â salwch meddwl megis sgitsoffrenia ac anhwylderau’r hwyliau.
Dim ond drwy ymgysylltu’n allanol â’r chwaraewyr eraill yn y maes hwn y gall hyn ddigwydd, sef byd diwydiant, y GIG a’r trydydd sector. Bydd y Ganolfan yn parhau i ddefnyddio sefyllfa unigryw Caerdydd i ddenu a hyfforddi’r meddyliau disgleiriaf a gorau i fynd i’r afael â phroblem salwch meddwl, tra’n ehangu ac yn gwreiddio ein dull o weithio gyda phartneriaid i droi ein hymchwil yn driniaethau newydd i gleifion. Mae ein partneriaethau cyfredol gyda Takeda a Janssen eisoes wedi dangos potensial, a chredwn y gallwn sicrhau mai Caerdydd yw’r lle delfrydol i fuddsoddi mewn ymchwil iechyd meddwl trosi.
Dros bum mlynedd, byddai gwaith Canolfan Hodge yn cynnwys yr elfennau allweddol canlynol:
- Datblygu'r genhedlaeth nesaf o dalent ymchwil drwy Raglen Ysgoloriaethau PhD Hodge, sef 18 o ysgoloriaethau PhD hynod bwysig a chystadleuol.
- Cefnogi'r ymchwilwyr gyrfa gynnar gorau y tu hwnt i'w doethuriaethau.
- Defnyddio ein hymchwil arloesol er budd cleifion.
- Ymgysylltu â phartneriaid, cleifion a’r cyhoedd, gan gynnwys yn sgil ein Darlith Gyhoeddus Hodge flynyddol yn ogystal â digwyddiadau allgymorth gyda byd diwydiant, grwpiau clinigol, y GIG a’r cyhoedd.
Ymholiadau
I gael rhagor o wybodaeth am ysgoloriaethau PhD Canolfan Hodge a sut i gydweithio â ni, cysylltwch â:
Julie Cleaver
Administrative Officer, Neurosciences & Mental Health Research Institute
- cleaverj@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8341
Arweinydd Academaidd
Yr Athro Jeremy Hall
Director/Clinical Professor, Neurosciences & Mental Health Research Institute
- hallj10@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8342
Cyd-Arweinwyr Academaidd
Yr Athro Lawrence Wilkinson
Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesi er Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl
- wilkinsonl@caerdydd.ac.uk
- +44(0) 29 2068 8461
Dr Kerrie Thomas
Reader, Operations Director Neuroscience and Mental Health Innovation Institute, Co-Director of the Hodge Centre for Neuropsychiatric Immunology in Cardiff
- thomaskl5@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8344
Yr Athro Neil Harrison
Clinical Professor in Neuroimaging
- harrisonn4@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6785