Ewch i’r prif gynnwys

Cydweithio

Drwy gydweithio ag ystod eang o sefydliadau academaidd, iechyd a chyhoeddus, gallwn ehangu a manteisio i’r eithaf ar effaith ein gwaith arloesol.

Mae gennym amryw o berthnasau cydweithio. Yn eu plith y mae sefydliadau academaidd allanol a grantiau a noddir gan sefydliadau, yn ogystal â rhaglenni mewnol a gynhelir gan ganolfannau yn y Brifysgol.

Rydyn ni’n angerddol ynghylch sicrhau ymchwil berthnasol sy'n gwasanaethu diben cymdeithasol gwerthfawr ac mae ein tîm ymchwil yn croesawu’r cyfle i feithrin prosiectau newydd ar y cyd. Rydyn ni o’r farn mai dim ond drwy gyfleu syniadau gwyddoniaeth yn ehangach y gall ein staff a'n myfyrwyr gyflawni eu nodau craidd wrth ymchwilio i driniaethau a therapïau posibl ar gyfer ystod o gyflyrau niwrolegol cymhleth.

Prosiectau allweddol ar y cyd

Takeda drug discovery

Takeda

Rydyn ni wedi partneru gyda Takeda Pharmaceutical Company Limited i gydweithio ym maes darganfod cyffuriau.

Hadyn Ellis exterior

Rhaglen Meddyliau’r Dyfodol Sefydliad Waterloo

Yn sgil rhaglen Meddyliau’r Dyfodol Sefydliad Waterloo (Waterloo Foundation) caiff ymchwilwyr ifanc y cyfle i ddatblygu triniaethau arloesol ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl gwanychol.

BRAIN logo

BRAIN Unit

Datblygu therapïau arloesol ar gyfer niwrolegol a niwroddirywioldebau trwy gydweithredu

a graphic showing different scientific symbols with a mouse in the middle

MURIDAE Glwstwr Ymchwil

Mae MURIDAE yn lwyfan integredig, safonol ar gyfer ffenoteipio bywyd cynnar yn y llygoden er mwyn deall llwybrau datblygiadol yn well mewn anhwylderau niwroseiciatreg.

microscope research

Canolfan Imiwnoleg Niwroseiciatrig Hodge

Buddsoddiad Sefydliad Hodge yn dod ag arbenigwyr y Brifysgol ynghyd

Canolfan Niwrowyddoniaeth Drosi Hodge

Bydd Canolfan Niwrowyddoniaeth Drosi Hodge yn troi darganfyddiadau genetig yn driniaethau newydd i gleifion â salwch meddwl megis sgitsoffrenia ac anhwylderau’r hwyliau.

Cysylltu â ni

I drafod prosiect neu gydweithio posibl ar y cyd, cysylltwch â ni drwy ebostio:

Ymchwiliadau cyffredinol