Darlith Gyhoeddus Hodge 2022
A allwn ni dargedu'r system imiwnedd er mwyn datblygu triniaethau newydd ar gyfer seicosis?
Traddododd yr Athro Rachel Upthegrove, Athro Seiciatreg ac Iechyd Meddwl Ieuenctid, Prifysgol Birmingham, Ddarlith Gyhoeddus Diwrnod Hodge 2022.
Dyma grynodeb o’r digwyddiad gan y fyfyrwraig ymchwil ôl-raddedig Elle Mawson o’r Ysgol Meddygaeth.
Ar ôl prynhawn cyffrous o siaradwyr o Brifysgol Caerdydd a ledled y DU a oedd yn trafod eu hymchwil ar rôl llid a swyddogaeth y system imiwnedd o ran clefydau seiciatrig, rhoddodd yr Athro Rachel Upthegrove ddarlith gyhoeddus ar ei hymchwil ar y berthynas rhwng ffactorau megis y risg amgylcheddol a’r risg genetig, a sut mae’r rhain yn effeithio hwyrach ar y ffordd y mae’r system imiwnedd yn gweithio, gan arwain at anhwylderau megis sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol.
Mae ffactorau’r risg amgylcheddol o ran clefydau seiciatrig (megis amddifadedd, llygredd, effaith byw mewn ardaloedd trefol) yn gyffredin iawn mewn dinasoedd megis Birmingham. Soniodd yr Athro Upthegrove am sut mae hyn wedi dylanwadu ar ei hymchwil gan dynnu sylw at bwysigrwydd deall y mecanweithiau sy’n digwydd pan fydd y ffactorau risg hyn yn arwain at glefyd seiciatrig a'r angen dybryd am driniaethau newydd i gleifion.
Mae'r holl driniaethau ar gyfer seicosis sy’n defnyddio cyffuriau cyfredol yn gweithio’r un ffordd, sef signalau dopamin rhwng celloedd yr ymennydd. Er bod y triniaethau hyn yn effeithiol yn achos llawer o gleifion, mae cryn nifer o sgil-effeithiau ynghlwm, ac nid yw tua 30% o gleifion yn ymateb i’r triniaethau. Hefyd, maen nhw ond yn tueddu i ddatrys symptomau seicotig megis rhithwelediadau a lledrithiau ac yn gwneud fawr ddim i drin y namau o ran gwybyddiaeth a hwyliau yn achos llawer o gleifion.
Mae llawer o astudiaethau wedi ymchwilio i’r genynnau sy'n fwy cyffredin ymhlith cleifion â chlefydau seiciatrig nag yn y boblogaeth yn gyffredinol ac wedi canfod ei bod yn ymddangos bod gan lawer o brosesau yn y system imiwnedd amrywiolion genynnau sy'n digwydd yn amlach yn achos cleifion o'u cymharu ag unigolion iach. Ni fydd pob cludwr y genynnau risg hyn yn mynd ymlaen i gael sgitsoffrenia neu anhwylderau seiciatrig eraill, felly hwyrach bod presenoldeb ffactorau risg amgylcheddol yn esbonio sut mae risg genetig yn troi’n glefydau yn achos unigolion penodol.
Moleciwl yw interleukin 6 (IL-6) sy'n chwarae rhan allweddol yn y system imiwnedd ac yn gweithio i greu llid. Mae llid yn broses bwysig ac yn allweddol er mwyn i gorff iach ymladd yn erbyn afiechyd a gwella yn sgîl anaf. Gall cyflwr llidiol cyson fod yn niweidiol ac effeithio ar ddatblygiad a gweithrediad celloedd yn yr ymennydd. Canfuwyd bod IL-6 yn cynyddu ymhlith pobl cyn i seicosis ddechrau, a chanfuwyd bod lefel IL-6 yn 9 oed yn rhagfynegydd o ddatblygu seicosis yn nes ymlaen mewn bywyd.
Mae protein C-adweithiol (CRP) yn foleciwl arall sy'n rhagfynegydd o gyflwr llidiol. Mae astudiaethau sy'n defnyddio cronfeydd data mawr o wybodaeth gan yr un unigolion dros nifer o flynyddoedd wedi canfod bod gan blant pryderus debygolrwydd uwch o ddatblygu seicosis yn 24 oed pan fydd y rhain yn cael eu dosbarthu'n grwpiau sy'n bryderus yn gyson a grwpiau nad ydynt yn bryderus yn gyson, sef canfyddiad yr ymddengys mai faint o CRP sydd gan unigolyn sy’n gyfrifol amdano. Cefnogir y syniad ei bod yn bosibl bod yr amgylchedd yn effeithio ar y perthnasoedd hyn gan ganfyddiadau bod nifer y digwyddiadau trawma yn ystod plentyndod hefyd yn gysylltiedig â lefel y symptomau seicotig yn achos cleifion sydd ag anhwylder deubegynol.
Roedd y data cynnar yn dangos canlyniadau addawol cyffur gwrthfiotig o'r enw minocycline sy'n gallu gweithio i leihau llid yn yr ymennydd a diogelu celloedd yr ymennydd. Fodd bynnag, ni ddaeth treial cyffuriau mwy o faint o hyd i dystiolaeth bod minocycline yn gwella symptomau sgitsoffrenia, ac nid oedd chwaith yn effeithio ar faint o IL-6 sydd gan gleifion. Fodd bynnag, mae tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg wedi dangos ei bod yn bosibl bod ychwanegu cyffuriau gwrthlidiol at gyfundrefn trin cleifion yn gwella’r symptomau. Er mwyn gwella ein dealltwriaeth o'r ffordd orau o ddatblygu triniaethau newydd sy'n targedu mecanweithiau llidiol mewn achosion o glefyd seiciatrig, mae grŵp yr Athro Upthegrove yn cynnal yr Astudiaeth Meddygaeth Strata o Fecanwaith Imiwnedd Seicosis (PIMS). Nod yr astudiaeth yw dilysu a yw IL-6 yn darged therapiwtig posibl ond yn seiliedig ar egwyddor haenu cleifion yn seiliedig ar lefel y llid sydd ganddynt, targedu'r cleifion hynny sydd fwyaf tebygol o elwa ar y mathau hyn o driniaethau yn benodol.
Yn astudiaeth PIMS, defnyddir technegau dysgu genetig a pheirianyddol arloesol i ddeall pa agweddau penodol ar lid y dylid eu targedu i drin cyffuriau ac i ddeall a oes perthynas achosol uniongyrchol rhwng llid a swyddogaeth yr ymennydd, gan ei bod yn bosibl bod esboniad arall, sef bod llid yn digwydd o ganlyniad i glefyd yn hytrach na’i achosi.
Mae tîm yr Athro Upthegrove wedi rhagweld y byddai lefelau IL-6 yn gysylltiedig â marcwyr penodol o glefydau megis llai o gyfaint a thrwch meinwe'r ymennydd yn yr ardaloedd hynny yn yr ymennydd y gwyddom eu bod yn berthnasol i sgitsoffrenia. Mae'n ymddangos bod eu canlyniadau cynnar yn cytuno â'r rhagfynegiad hwn ac maen nhw wedi canfod, yn sgîl data genetig, bod rhai amrywiolion genynnau sy'n gysylltiedig ag IL-6 yn gysylltiedig â'r newidiadau hyn yn nhrwch a chyfaint meinwe'r ymennydd. Gan fod y genynnau sydd gan unigolyn yn cael eu pennu wrth gael ei eni, mae'r canlyniadau hyn yn dangos ei bod yn bosibl bod IL-6 yn gysylltiedig â strwythur yr ymennydd a’i fod efallai’n rhagflaenydd cynnar y bydd cyflyrau seiciatrig megis sgitsoffrenia’n datblygu.
Mae grŵp ymchwil yr Athro Upthegrove hefyd yn cynnal yr Astudiaeth Meddygaeth Arbrofol Wedi'i Dargedu mewn Seicosis sy'n treialu cyffur o'r enw Tocilizumab. Ar hyn o bryd mae Tocilizumab yn cael ei drwyddedu i drin arthritis gwynegol ac mae'n gweithio drwy rwystro IL-6 rhag gweithio. Mae'r astudiaeth ond megis cychwyn, ond mae ymchwil sy’n defnyddio celloedd a dyfir yn y labordy wedi dangos canlyniadau addawol sy'n awgrymu ei bod yn bosibl bod y cyffur yn effeithiol.
Mae pwysigrwydd ymchwil feddygol sy'n gallu dylanwadu ar y ffordd y mae anhwylderau seiciatrig yn cael eu trin yn y clinig yn ogystal â’r ystod o opsiynau triniaeth sydd ar gael i gleifion yn aml yn cael ei bwysleisio. Wrth gloi ei darlith, pwysleisiodd yr Athro Upthegrove bwysigrwydd y broses hon sy'n gweithio i'r gwrthwyneb, gan y dylai canlyniadau treialon cyffuriau megis yr astudiaeth ar minocycline weithio i addasu’r ffordd rydyn ni’n ystyried mecanweithiau clefydau yn ystod camau cynharach ymchwil.
Roedd y ddarlith yn hynod ddiddorol ac yn llawn gwybodaeth ac wedyn cafwyd sesiwn Holi ac Ateb fywiog gyda llawer o gwestiynau gan y gynulleidfa a oedd yn cynnwys clinigwyr, myfyrwyr, ymchwilwyr cyn-glinigol yn ogystal ag aelodau'r cyhoedd.