Ewch i’r prif gynnwys

Hymchwil

Mae ein hymchwil yn ymchwilio i anghenion plant sy'n dangos anawsterau a phroblemau emosiynol, gwybyddol neu ymddygiadol, ac yn mynd i’r afael â’r rhain.

Wedi'i hariannu gan Sefydliad Waterloo, rydym yn cynnal astudiaeth tair blynedd o ymarferoldeb gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd ac ysgolion i ddarparu asesiadau ar sail tystiolaeth o blant a allai fod â phroblemau datblygiadol. Rydym yn bwriadu helpu teuluoedd a'r rhai sy'n gweithio gyda'r plant yn yr ysgol trwy eu darparu â gwybodaeth fanwl am gryfderau a gwendidau'r plentyn. Gall yr adroddiad hwn hefyd lywio unrhyw atgyfeiriadau diweddarach at wasanaethau addysgol neu glinigol.

Yn benodol, asesir plant rhwng pedair a saith oed, ac rydym yn gwneud y canlynol:

  • asesu galluoedd addysgol cyffredinol fel gallu llafar/dieiriau
  • rhoi profion gwybyddol ar gyfer sylw, ataliad a chof gweithredol
  • darparu profion cymdeithasol-emosiynol sy'n seiliedig ar ymchwil ar gyfer cydnabod emosiynau, empathi, prosesu affeithiau, a theori’r meddwl.

Gofynnwn hefyd i'r rhiant neu'r gwarcheidwad sy'n dod gyda nhw gwblhau cyfweliad clinigol i nodi'r prif heriau i'r plentyn, a elwir yn Asesiad Datblygu a Lles. Mae rhieni a gwarcheidwaid hefyd yn llenwi holiaduron ynghylch cryfderau ac anawsterau’r plant, eu hymddygiad, a'u datblygiad a'u hiechyd.

Bydd canlyniadau'r asesiad manwl hwn yn helpu'r rhai sy'n gweithio gyda'r plant hyn yn yr ysgol neu gartref i ddewis darpariaeth addysgol briodol ac i flaenoriaethu ymyriadau a llywio unrhyw atgyfeiriadau diweddarach at wasanaethau addysgol neu glinigol.

Ymchwil COVID-19

Wedi'i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), rydym hefyd yn ymchwilio i effeithiau cymdeithasol, economaidd ac iechyd meddwl y pandemig COVID-19 ar blant a theuluoedd sy'n agored i niwed.

Effeithiau seicogymdeithasol y pandemig COVID-19

Mae teuluoedd yn profi nifer o newidiadau yn eu bywydau bob dydd, newidiadau sy'n arwain at heriau iechyd meddwl ac economaidd. Credwn y bydd yr effaith ar iechyd meddwl a lles yn arbennig o fawr i deuluoedd â phlant sy’n agored i niwed sydd mewn perygl o gael anawsterau iechyd meddwl sylweddol ac sydd hefyd yn byw mewn amgylchiadau anodd.

Rydym wedi bod yn dilyn carfan o blant a theuluoedd sy’n agored i niwed cyn COVID-19 ac wedi parhau i edrych ar effeithiau cymdeithasol, economaidd ac iechyd meddwl y pandemig a'r cyfyngiadau symud cysylltiedig ar y plant a theuluoedd hyn.

Rydym am ddeall y canlynol:

  • sut mae plant a theuluoedd yn ymdopi
  • yr hyn sydd wedi bod yn anodd
  • yr hyn sydd wedi eu helpu i ymdopi
  • unrhyw effeithiau cadarnhaol y maent wedi'u profi.

Partneriaid

Galluogwyd y gwaith ymchwil hwn gyda chydweithrediad a chefnogaeth: