Ewch i’r prif gynnwys

Prosesau meddwl

Thinking processes

Gwneir asesiadau ar gyfer prosesau meddwl gan ddefnyddio tri dull: hyblygrwydd gwybyddol, ataliad gwybyddol, a sylw parhaus.

Hyblygrwydd gwybyddol

Hyblygrwydd gwybyddol yw'r gallu i feddwl yn hyblyg ac i newid o feddwl am un cysyniad i'r llall.

Pam mae hyblygrwydd gwybyddol yn bwysig?

Bydd mwy o hyblygrwydd gwybyddol yn caniatáu i'r unigolyn fod yn fwy hyblyg yn ei feddwl a newid ei ymateb ymddygiadol yn dibynnu ar newidiadau yn yr amgylchedd.

Sut ydym yn mesur hyblygrwydd gwybyddol?

Rydym yn mesur hyblygrwydd gwybyddol gan ddefnyddio'r dasg Trefnu Cardiau Newid Dimensiwn (‘Dimensional Change Card Sort’) o’r NIH Toolbox ar gyfrifiadur llechen. Cyflwynir lluniau ac mae'r plentyn yn paru’r lluniau ar sail naill ai’r dimensiwn 'siâp' neu 'liw'. Nodir y dimensiwn ar gyfer trefnu gan giw llafar ar y sgrin.

Ataliad gwybyddol

Mae ataliad gwybyddol yn un o'r sgiliau gwybyddol craidd a ddefnyddiwn i reoli ein meddwl a'n hymddygiad. Dyma’r gallu i atal a rheoli ein hymatebion gwybyddol trwy anwybyddu gwybodaeth sy'n amherthnasol i'r dasg bresennol.

Pam mae ataliad gwybyddol yn bwysig?

Efallai y bydd plant sy'n cael trafferth ag ataliad gwybyddol yn ei chael hi'n anodd rheoli eu hysgogiadau i roi'r gorau i feddwl am rywbeth neu wneud rhywbeth.

Sut ydym yn mesur ataliad gwybyddol?

Rydym yn mesur ataliad gwybyddol gan ddefnyddio’r dasg‘Flanker’ o’r NIH Toolbox. Mae'r dasg hon yn mesur rheolaeth a sylw ataliol. Gofynnir i'r plentyn ganolbwyntio ar y pysgodyn yn y canol – a dewis y saeth sy'n cyfateb i'r ffordd y mae'r pysgodyn yn pwyntio – wrth atal sylw at y pysgod wrth ei ymyl.

Sustained attention

Sylw parhaus yw'r gallu i ganolbwyntio ar weithgaredd neu dasg dros gyfnod hirach.

Pam mae sylw parhaus yn bwysig?

Efallai y bydd plant sy'n cael trafferth â chynnal sylw parhaus yn ei chael hi'n anodd canolbwyntio ei sylw am yr amser gofynnol ac osgoi gwrthdynnu, gan ei gwneud hi'n anodd cwblhau tasgau yn llwyddiannus. Mae'n sgìl gwybyddol craidd oherwydd ei fod yn bwysig y gall y plentyn reoli, gyfarwyddo ac addasu ei sylw.

Sut ydym yn mesur sylw parhaus?

Rydym yn defnyddio tasg o'r enw ‘Pursuit’o Dasgau NiwroseicolegolAmsterdam (ANT). Yn y dasg ‘Pursuit’, mae'n rhaid i'r plentyn ddilyn seren werdd sy’n symud mewn cyfeiriadau anrhagweladwy trwy ddefnyddio llygoden y cyfrifiadur. Asesir gallu'r plentyn i gynnal ei berfformiad ar draws hyd pum munud y dasg.