Cymdeithasol ac emosiynol
Gwneir asesiadau cymdeithasol ac emosiynol gan ddefnyddio dau ddull: cydnabyddiaeth emosiynol wyneb a theori meddwl.
Cydnabod emosiynau wyneb
Mae emosiynau'n gysylltiedig â mynegiadau emosiynol penodol. Cyfeirir adnabod emosiynau wyneb at y gallu i adnabod y mynegiant wyneb hwn yn gywir, sy'n datblygu ac yn gwella trwy gydol plentyndod.
Pam mae adnabod emosiynau wyneb yn bwysig?
Gall anawsterau wrth adnabod mynegiant wyneb arwain at ganlyniadau negyddol o ran deall sut mae pobl eraill yn teimlo, a all ymyrryd â'r gallu i ymddwyn yn gymdeithasol yn briodol ac i gynnal cyfeillgarwch.
Sut ydym yn mesur y gallu i adnabod emosiynau wyneb?
Rydym yn mesur gallu pob plentyn i adnabod emosiynau wyneb trwy'r dasg Cydnabod Emosiynau Wyneb. Cyflwynir delweddau o wynebau gwrywaidd a benywaidd i'r plentyn, yn dangos mynegiant o hapusrwydd, tristwch, ofn, dicter neu ddim emosiwn. Gofynnir i'r plentyn nodi sut mae'r unigolyn hwnnw'n teimlo.
Mae dwyster mynegiant yr wyneb hefyd yn amrywio o ddwyster isel i ddwyster uchel. Mae'n bwysig gwirio ym mha le mae'r plentyn yn edrych wrth arsylwi wynebau, gan fod y wybodaeth emosiynol bwysicaf yn cael ei chyfleu gan y llygaid a'r geg. Felly, rydym yn defnyddio technegau olrhain llygaid i archwilio ym mha le mae'r plentyn yn edrych wrth adnabod mynegiant yr wyneb.
Theori’r meddwl
Beth yw theori’r meddwl?
Theori’r meddwl yw'r gallu i briodoli cyflyrau meddyliol i chi'ch hun ac i eraill. Mae'r swyddogaeth hon yn galluogi unigolyn i ddeall neu ragfynegi ymddygiad pobl eraill mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.
Pam mae theori’r meddwl yn bwysig?
Wrth i blant ddatblygu, mae eu dealltwriaeth o theori’r meddwl yn datblygu hefyd; yn fwyfwy, maent yn gweld bodau dynol fel unigolion sydd â chredoau, dyheadau, bwriadau a theimladau sydd ar wahân i'w rhai eu hunain. Mae'r gallu hwn yn helpu plant i ddatblygu'r sgiliau cymdeithasol sydd eu hangen ar gyfer chwarae esgus cymdeithasol, cyfeillgarwch dwyochrog a chydweithrediad priodol.
Sut ydym yn mesur theori’r meddwl?
Mae theori’r meddwl yn cael ei mesur trwy gyfres o straeon gan ddefnyddio teganau meddal neu ffigurau teganau fel y prif gymeriadau. Mae pob stori yn creu sefyllfa lle mae'r plentyn yn ymwybodol o rywbeth nad yw prif gymeriad yn y stori. Wedyn, gofynnir cwestiynau i'r plentyn am farn y prif gymeriad.
Er mwyn llwyddo yn y dasg, mae’n rhaid i'r plentyn allu deall bod cynrychiolaeth feddyliol rhywun arall o'r sefyllfa yn wahanol i'w gynrychiolaeth ei hun, a defnyddio'r wybodaeth honno i ragfynegi ymddygiad y cymeriad. Er enghraifft, yn y 'Tasg Lleoliad Sally-Anne', cyflwynir plant i ffigurau teganau o'r enw Max a Sally.
Mae gan Max bêl-droed ac mae'n ei rhoi mewn basged cyn mynd allan am dro. Tra bo Max i ffwrdd, mae Sally yn symud y bêl-droed o'r fasged i'r cwpwrdd. Pan fydd Max yn dychwelyd, gofynnir i'r plentyn, ‘Ble bydd Max yn edrych am ei bêl-droed?’ Yr ateb cywir yw y bydd Max yn edrych yn y fasged gan nad yw'n ymwybodol bod ei bêl-droed wedi'i symud, yn wahanol i'r plentyn, sy'n gwybod lle mae'r bêl mewn gwirionedd.