Tîm Uned Asesu Niwroddatblygiad (NDAU)
Dewch i gwrdd â thîm ymchwil NDAU, gan gynnwys myfyrwyr ar leoliad gwaith a chyd-ymchwilwyr.
Myfyrwyr ar leoliad gwaith
Rydw i’n fyfyriwr israddedig sy’n astudio seicoleg ar hyn o bryd ac rydw i’n edrych ymlaen yn eiddgar at gael treulio fy mlwyddyn ar leoliad yn yr Uned Asesu Niwroddatblygiad. Tyfodd fy niddordeb am seicoleg ddatblygiadol drwy gydol fy astudiaethau ac yn ystod cyfnod o waith gwirfoddol diweddar. Rydw i’n ddiolchgar o gael y cyfle i gael ymwneud â phlant a’u teuluoedd, a chydweithio â seicolegwyr addysg, i gynyddu fy ngwybodaeth a chyfrannu at les a datblygiad y plant rydyn ni’n eu cefnogi.
Rydw i’n fyfyriwr israddedig sy’n astudio seicoleg ac rydw i’n edrych ymlaen yn eiddgar at dreulio fy mlwyddyn ar leoliad yn yr Uned Asesu Niwroddatblygiad. Mae gen i ddiddordeb mewn dilyn gyrfa ym maes seicoleg addysg gan fy mod i’n frwdfrydig ynghylch cefnogi plant a'u lles. Mae fy mhrofiad blaenorol o weithio gyda phlant wedi rhoi hwb i’r diddordeb hwn ac wedi fy nghymell i ddysgu mwy am seicoleg. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â’r plant a’r oedolion pwysig yn eu bywydau, ac i weithio gyda nhw yn rhan o dîm anhygoel yr Uned Asesu Niwroddatblygiad.
Fy enw i yw Leilu ac rydw i’n treulio’r flwyddyn hon ar leoliad yn rhan o'm gradd israddedig mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at gwblhau fy lleoliad gwaith yn yr Uned Asesu Niwroddatblygiad er mwyn ehangu fy ngwybodaeth o'r maes datblygiadol a dysgu mwy am seicoleg addysg. Rydw i wedi gweithio gyda phlant o’r blaen, ac yn cydnabod pwysigrwydd deall meddyliau niwrowahanol. Yn ystod y lleoliad hwn rydw i’n gobeithio datblygu fy ngwybodaeth o sgiliau ymchwil a dealltwriaeth o bryderon niwroddatblygiadol er mwyn rhoi hwb i fy ngyrfa yn y dyfodol.
Rwy’n fyfyriwr seicoleg israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, ac ar hyn o bryd rydw i’n treulio blwyddyn ar leoliad yma yn yr Uned Asesu Niwroddatblygiad. Ar ôl gweithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol a’u rhieni, rwy’n angerddol am y ddarpariaeth ac ynghylch gwella ansawdd ein gwasanaethau cymorth. Rydw i’n awyddus i ddatblygu gyrfa mewn seicoleg ddatblygiadol, ac mae’r lleoliad gwaith hwn yn gam gwerthfawr tuag at hynny. Mae'n wych bod yn rhan o'r tîm a chyfrannu at y gwaith pwysig hwn!
Cyd-ymchwilwyr
Mae'r NDAU yn rhedeg uned ymchwil ar gyfer plant rhwng pedair a saith oed sy'n cael anawsterau mewn agweddau ar emosiwn, gwybyddiaeth ac ymddygiad.