Lliniaru
Rydym yn gofyn a yw'n bosibl lliniaru’r effeithiau ar yr hinsawdd trwy ddefnyddio gwyddoniaeth a pheirianneg.
Rydym yn datblygu atebion sy'n seiliedig ar natur ac yn ysgogi newidiadau i ymddygiad cymdeithasol, polisïau'r llywodraeth, a rheoliadau lleol i wneud ein hamgylchedd naturiol ac adeiledig yn fwy gwydn ar gyfer newidiadau yn y dyfodol, cynyddu effaith atebion technolegol i'r eithaf, a lliniaru'r difrod sydd eisoes wedi'i wneud.
Rydym eisoes yn profi nifer o ganlyniadau'r newid yn yr hinsawdd ac mae'n anodd datgarboneiddio rhai sectorau yn y byd diwydiant. A fydd yn bosibl lliniaru effeithiau ar yr hinsawdd trwy ddefnyddio gwyddoniaeth a pheirianneg, fel dal a storio/defnyddio carbon deuocsid? Sut allwn ni helpu'r amgylchedd naturiol ac adeiledig i fod yn fwy gwydn a dod o hyd i atebion sy'n seiliedig ar natur ar gyfer y newid yn yr hinsawdd? Sut allwn ni newid ymddygiadau a pholisïau i leddfu'r baich ar atebion technolegol?