Ewch i’r prif gynnwys

Opera a drama gerddorol

Astudio opera o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd heddiw mewn ffordd ryngddisgyblaethol, hanesyddol a beirniadol-ddiwylliannol

Mae gennym arbenigedd sylweddol mewn opera, drama gerddorol a theatr gerddorol newydd o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd heddiw.

Gwneir llawer o'n gwaith yn y maes hwn gan y Ganolfan Ymchwil Ryngddisgyblaethol Opera a Drama, sy'n meithrin cysylltiadau agos rhwng ein Hysgol a sefydliadau celfyddydol lleol, yn enwedig Opera Cenedlaethol Cymru.

Mae’r Ganolfan wedi goruchwylio cyfres o ddigwyddiadau a arweinir gan ymchwil gyda'r nod o hyrwyddo a gwella ymgysylltiad y cyhoedd ag opera ac ymwybyddiaeth o faterion sy'n ymwneud â'i llwyfannu.

Mae prosiectau’r gorffennol wedi canolbwyntio ar ‘Carmen’ gan Bizet, prosiectau opera Mendelssohn, theatr gerddorol newydd Ewropeaidd c.1950-1977 ac opera mewn sinema ac ar YouTube.

Prosiectau

Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd yn y maes ymchwil hwn yn cynnwys archwiliad Dr Barbara Gentili o lais benywaidd modern yr Eidal.

Mae gwaith ehangach ar opera o'n Hysgol yn cynnwys archwiliad Dr Clair Rowden o ‘Carmen’ gan Bizet a’i symudiad drwy amser a lle, yn Carmen Abroad ac Opera and Parody in Paris, 1860-1900, gan archwilio gwawdluniau'r wasg, cartwnau, caneuon a pharodïau poblogaidd a'u rôl mewn opera.

Mae gwaith blaenorol arall yn y maes hwn yn cynnwys archwiliad Dr David Beard o operâu a theatr gerddorol Harrison Birtwistle, ‘Bhekizizwe’ gan Dr Robert Fokkens, opera sy'n archwilio cysyniadau hil, hunaniaeth a mwy drwy fywyd dyn Zwlw ifanc o Dde Affrica, a chipolygon ar brosiectau opera Felix Mendelssohn Bartholdy gan Dr Monika Hennemann.

Mae Dr Carlo Cenciarelli hefyd wedi archwilio opera o'r blaen, yng nghyd-destun yr unfed ganrif ar hugain.