Cerddoriaeth, gwleidyddiaeth a lle
Ehangu ein dealltwriaeth o ganolfannau cerdd pwysig a chwestiynu naratifau hanesyddol safonol.
Mae ein hymchwil gyfredol yn y maes hwn yn cynnwys ymchwil ar draddodiadau gwerin yn Iwerddon, ac ar gerddoriaeth a chyhoeddi cerddoriaeth yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae ymchwil flaenorol wedi cynnwys ymchwiliad i rolau gwleidyddol a chymdeithasol cerddoriaeth yn Fienna ym 1700, 1800 a 1900, cerddoriaeth a phropaganda yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ymchwil ar gerddoriaeth yn Nhwrci, a chronicl o ymddangosiad y gwrthddiwylliant seicedelig yn San Francisco 1965-70.
Prosiectau
Mae Dr Stephen Millar wrthi'n gweithio ar brosiect sy'n archwilio'r rôl a chwaraeodd caneuon teyrngarol yn ystod Helyntion Gogledd Iwerddon (1968-1998).
Ymhlith prosiectau blaenorol yn y maes ymchwil hwn mae gwaith yr Athro David Wyn Jones ar gerddoriaeth yn ninas Fienna; Archwiliad Dr Sarah Hill o arbrofi seicedelig a gwrthddiwylliant yn y 1960au yn San Francisco a chydweithrediad Dr Caroline Rae â Cherddorfa Philharmonia, gan rannu ei harbenigedd mewn cerddoriaeth Ffrengig yr ugeinfed ganrif.