Sopranos, Opera Eidalaidd a'r Fenyw Newydd
Yn ystod degawdau cynnar yr ugeinfed ganrif, chwaraeodd sopranos yr Eidal ran hanfodol yn hanes rhyddfreinio menywod.
Ar y cyd ag awduron, deallusion, artistiaid ac actorion benywaidd, aethant ati i ddiffinio nodweddion hanfodol y Fenyw Newydd. Tra bo gwaith diweddar ar gantorion opera benywaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn canolbwyntio ar gantorion o Ffrainc, yr Almaen ac Eingl-Americanaidd, mae sopranos yr Eidal ac opera Eidalaidd wedi cael llawer llai o sylw, yn enwedig o safbwynt astudiaethau ffeministaidd. O ystyried pa mor ganolog yw gweithiau Eidalaidd yn y canon operatig, mae'r hepgoriad hwn yn rhyfedd.
Rym benywaidd
Gyda chefnogaeth Cymrodoriaeth Gyrfa Gynnar gan Ymddiriedaeth Leverhulme, mae Dr Barbara Gentili yn archwilio sut y lluniodd sopranos fodelau newydd o rym benywaidd yn y degawdau o gwmpas 1900. Roedd y cantorion dan ystyriaeth hefyd yn entrepreneuriaid gweithredol ym mywyd diwylliannol yr Eidal ryddfrydol cyn dyfodiad Ffasgaeth, sy'n eu gwneud yn arbennig o ddiddorol.
Am dros bedair blynedd ar ddeg Emma Carelli oedd impresario Tŷ Opera Rhufain (1912-1926), a daeth Eugenia Burzio yn olygydd cyfnodolyn y theatr Comoedia ar ôl ymddeol o'r llwyfan. Drwy yrfaoedd canu a chyfarfodydd rhyngwladol Carelli a Burzio, plethir traddodiadau ffeministaidd gwahanol wledydd yn naratif cydlynol.
At hynny, mae cysylltiadau'r ddwy soprano enwog gyda ffigurau benywaidd amlwg y cyfnod mewn meysydd eraill (a'u safbwyntiau ar syniad newydd o hunaniaeth fenywaidd) yn ehangu cwmpas y prosiect
Dull rhyngddisgyblaethol
Mae'n anochel bod y dull o ymdrin â'r pynciau hyn yn drawswladol a rhyngddisgyblaethol, yn cwmpasu hanesyddiaeth cerddoriaeth, hanes diwylliannol a gwleidyddol, astudiaethau rhywedd, ac astudiaethau Eidalaidd.
Hefyd, mae Dr Gentili yn olrhain y rhyngweithio rhwng ffeministiaeth Eidalaidd, Ewropeaidd, De-Americanaidd ac Eingl-Americanaidd wrth i'r arddull perfformio newydd fudo y tu hwnt i'r Eidal, drwy gyfnodau Burzio a Carelli yn y cylchedau rhyngwladol sefydledig o opera Eidalaidd. Bydd hyn yn dangos sut y dysgodd sopranos o wahanol genhedloedd gan Burzio a Carelli sut i greu eu harddulliau hybrid eu hunain yn yr un rhannau.
Allbwn
Canlyniad y prosiect fydd monograff gyda'r teitl arfaethedig The ‘Modern’ Soprano: Performing the Donna Nova in Early Twentieth-Century Italy.
- *Ar bwnc y soprano 'fodern', mae Dr Barbara Gentili wedi cyfrannu pennod i The Routledge Companion to Autoethnography and Self-Reflexivity in Music Studies, a olygwyd gan Christopher Wiley a Peter Gouzouasis (Routledge, ar y gweill yn 2021).
- Ar bwnc y soprano fel model o leisiolrwydd 'modern', mae Dr Gentili wedi cyhoeddi'r erthygl ‘Changing Aesthetics of Vocal Registration in the Age of Verismo’, Music & Letters (cyhoeddwyd ar-lein 13 Rhagfyr 2020).
Y diweddaraf gan academyddion am y gwaith cyffrous sy’n cael ei wneud yn yr ysgol.