Ewch i’r prif gynnwys

Opera a Pharodi

Mae darluniadau doniol, sy'n amrywio o'r rhai clasurol gyda phennau mawr grotésg ar gyrff bach, i barodi cartŵn soffistigedig o opera a'i chonfensiynau ar gyfer haen o gymdeithas a fyddai'n hyddysg a diwylliedig i raddau mwy neu'i gilydd, yn datgelu asiantaeth ddiwylliannol y wasg iconograffig. Maent yn ystyried y cwestiwn am addasu a rhyng-destunoldeb, derbyniad a darlleniad.

Parodïau

Mae perfformiadau parodi o bosibl hyd yn oed yn fwy byrhoedlog na darluniadau a gyhoeddwyd gan mai prin yw'r ffynonellau sydd wedi goroesi i sefydlu testun perfformiad - cafodd libretti eu cyhoeddi o bryd i'w gilydd, ond ychydig iawn o'r perfformiadau hyn oedd yn cynnwys sgôr oedd wedi'i ysgrifennu neu’i gyfansoddi'n llawn sydd wedi goroesi.

O ran y stribedi comig operatig, a ymddangosai'n rheolaidd mewn cyfnodolion dychanol Paris o ganol y 1880au hyd at tua 1900, tystiai golygfeydd parodi trwy ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg i arwyddocâd diwylliannol y dynwarediad doniol o waith arall.

Er bod perfformiadau parodi llwyfan yn bodoli ar gyfer llawer o weithiau llwyddiannus, heb os, parodïau operetta (a oedd weithiau'n barodïau o operâu eu hunain) oedd y rhai mwyaf toreithiog. Mae parodïau o operâu Wagner yng nghyd-destun sensitif Paris hefyd yn cynnig eiliadau sy'n crisialu nid yn unig barn y cyhoedd, ond gweithdrefnau ac arferion parodïol.

Allbwn

Cyhoeddodd Dr Clair Rowden yr erthygl Memorialisation, Commemoration and Commodification: Massenet and Caricature’ yn y Cambridge Opera Journal.

Yn ogystal, cyfrannodd Dr Rowden bennod:

  • ar 'Cariculture' ym Mharis y 1890au, i gyfrol a olygwyd gan Antonio Baldassare, Debra Pring a Pablo Sotuyo Blanco (Enhancing music iconography research: considering the current, setting new trends).
  • ar Barodïau Tannhäuser ar lwyfan poblogaidd Paris, 1861, i'w gyhoeddi yn y gyfrol Traces of Performance (gol. Anne Sivuoja-Kauppala).

Yn ddiweddar, mae Dr Rowden hefyd wedi cyhoeddi monograff sy'n delio nid yn unig ag opera a'i chyfryngu diwylliannol yn y wasg eiconograffig ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Ffrainc, ond hefyd mathau eraill o driniaeth barodïol, gan gynnwys parodi poblogaidd ar lwyfan. Cyhoeddwyd Opera and Parody in Paris, 1860-1900 gan Brepols yn 2020.

Staff cysylltiedig

Yr Athro Clair Rowden

Yr Athro Clair Rowden

Professor of Musicology

Email
rowdencs@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0462