Offerynnau Rhyfel
Dyfarnodd Prifysgol Caerdydd gymrodoriaeth ymchwil i Dr John Morgan O'Connell i astudio cerddoriaeth yn yr Ymerodraeth Otomanaidd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Roedd ei gynnig, o’r enw Offerynnau Rhyfel, yn adlewyrchu diddordeb parhaus ynghylch rôl cerddoriaeth pan fydd gwrthdaro a lle cerddoriaeth wrth ddatrys gwrthdaro.
Mae casgliad Dr O’Connell a olygwyd yn 2010Music and Conflict (wedi'i gyd-olygu gyda Salwa El-Shawan Castelo-Branco) yn amlygu rôl cerddoriaeth wrth gymell a datrys sbectrwm o wrthdaro cymdeithasol a gwleidyddol yn y byd cyfoes. Mae hefyd wedi ysgrifennu ar y pwnc ar gyfer y cyfnodolyn Ethnomusicology.
Roedd y dyfarniad hwn yn gyson â diddordeb ehangach ym Mhrifysgol Caerdydd mewn coffáu'r Rhyfel Mawr yng Nghymru. Er mai’r bwriad yn wreiddiol oedd cyhoeddi deunyddiau yn ymwneud â cherddoriaeth yn Ymgyrch y Dwyrain Canol (1914-1918), roedd cynnig ymchwil Dr O'Connell hefyd wedi creu perthynas ar gyfer gwaith ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru lle mae cerddoriaeth yn cael ei hystyried yn rhan annatod o’r fenter ar y Rhyfel Byd Cyntaf.
Darllenwch gofnod blog wedi'i archifo i gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn ac am gerddoriaeth yn yr Ymerodraeth Otomanaidd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Staff cysylltiedig
Y diweddaraf gan academyddion am y gwaith cyffrous sy’n cael ei wneud yn yr ysgol.