Ewch i’r prif gynnwys

Ailddarganfod drwm - adfywio treftadaeth gerddorol a grymuso cymunedau

Hwyluso cynhyrchu creadigol, galluogi cadwraeth treftadaeth, a grymuso menywod mewn cymuned sydd wedi bod ar yr ymylon yn y gorffennol.

Landscape shot outside Matanzas city, Cuba

Grymuso cymunedau drwy gerddoriaeth

Mae Dr Amanda Villepastour wedi cynnal ymchwil yn flaenorol am Añá Bí, y drymiau batá enwocaf yn Matanzas, sy’n cael eu hystyried yn un o'r setiau hynaf sydd wedi goroesi yng Nghiwba.

Yn ystod gwaith maes yn 2012, darganfu fod set o ddrymiau o’r cyfnod yn cael eu chwarae yn Matanzas gan ddrymwyr nad oeddent yn ymwybodol o'u tarddiad.

Drwy ei gwaith ethnograffig ar ôl hynny, dysgodd Dr Villepastour am werth hanesyddol a chymdeithasol cyfoethog y drymiau batá cysegredig, prin hyn o’r enw Ilú Keké, gan ddatgelu bod ganddynt gysylltiad agos â'r enwog Aña Bí a’u bod yn debygol o fod wedi'u crefftio gan yr un gwneuthurwr drymiau, wedi’u chwarae gan yr un cerddorion, ac yn dyddio yn ôl i’r un cyfnod o leiaf â’r set fwy adnabyddus (ac o bosibl cyn hynny).

Gwerth diwylliannol drymio

Mae drymio Batá wrth wraidd y crefydd Affro-Ciwbaidd, Santería. Mae'r drymiau'n symbol cenedlaethol pwerus o hunaniaeth Affricanaidd a threftadaeth ddiwylliannol yng Nghiwba; eitemau sanctaidd, sy’n cynnwys pŵer ysbrydol, cymdeithasol ac emosiynol aruthrol.

Yn ôl gwaith ysgolheigaidd ynghylch Ciwba, dechreuodd drymio batá yn Havana, gan wthio traddodiadau cerddorol rhanbarthol i’r ymylon.

Drwy ymchwil gydag offeiriaid, gwneuthurwyr offerynnau a safbwyntiau a anwybyddwyd yn flaenorol gan fenywod teuluoedd, nododd Dr Villepastour werth hanesyddol a chymdeithasol cyfoethog y drymiau batá a elwir yn Ilú Keké, er gwaethaf ymdrechion rhai cystadleuwyr i wthio naratif i’r gwrthwyneb.

Roedd ymchwil flaenorol wedi dibynnu bron yn gyfan gwbl ar wybodaeth gan ddrymwyr gwrywaidd, gan mai dim ond dynion sy'n cael chwarae batá cysegredig. Mae cynnwys lleisiau menywod yn y maes hwn wedi dod â gwerth ychwanegol sylweddol.

Gwarchod treftadaeth gerddorol

Yn 2016, cyd-gynhyrchodd Dr Villepastour a cherddor o Giwba, Luis Bran, gryno ddisg masnachol, gan gyflwyno ei hymchwil Ilú Keké yn cynnwys tair cenhedlaeth o gerddorion defodol.

Dyma’r recordiad masnachol cyntaf a gynhyrchwyd gan bobl Matanzas, a’r tro cyntaf i ddrymiau batá cysegredig gael eu chwarae ar gyfer recordiad stiwdio. Roedd y nodiadau manwl ym mhecyn y cryno ddisg yn egluro hanes ac arwyddocâd newydd Ilú Keké.

Arweiniodd dull Dr Villepastour at recordiadau maes o seremonïau Santería go iawn a synau Matanzas ochr yn ochr â chynyrchiadau stiwdio, a oedd yn dangos elfen anthropolegol y recordiad, gan gyflwyno dull newydd yng Nghiwba.

Ffeithiau allweddol

  • Enillodd y CD y Wobr Arbennig am Ymchwil Gerddorol yn 2018 yng ngwobrau cerddoriaeth genedlaethol mwyaf mawreddog Ciwba, CubaDisco (sy’n cael eu hadnabod fel "Gwobrau Grammys Ciwba").
  • Mae traciau’r CD wedi cael eu ffrydio 11,963 o weithiau ledled y byd, gan ddenu sylw rhyngwladol i gymuned a oedd gynt ar yr ymylon.

Dathlu arwyddocâd hanesyddol a chymdeithasol

O ganlyniad i waith Dr Villepastour i adnabod drymiau Ilú Keké, cafwyd mwy o gefnogaeth i'r diwydiant cerddoriaeth yn Matanzas ac i draddodiad cenedlaethol sydd wedi bod ar yr ymylon.

Mae hefyd wedi grymuso'r teulu estynedig sy'n berchen ar y drymiau i gymryd rhan yn eu treftadaeth ddiwylliannol eu hunain, gan sicrhau bod rôl allweddol Matanzas yn hanes batá yn cael sylw.

Erbyn hyn mae dealltwriaeth newydd, gyfoethocach o le Matanzas yn hanes diwylliannol Cuba.

Drwy ymchwil Amanda rydyn ni bellach wedi darganfod bod y drwm yma yn dyddio'n ôl i'r adeg pan mae’r setiau drymiau cyntaf yn ymddangos yn y rhanbarth yma. Mae hwn yn ddarganfyddiad pwysig dros ben, ac mae'r drwm wedi'i adfer ... Ac yn destun balchder erbyn hyn. Mae'n debyg mai dyma'r drwm crefyddol mwyaf poblogaidd sy'n cael ei chwarae yn ninas Matanzas.
Luis Bran