Effaith ymchwil yr Ysgol Cerddoriaeth
Rydym wedi ymrwymo i gyfathrebu ein hymchwil y tu hwnt i'r byd academaidd trwy ddylanwadu ar ymarfer creadigol, llywio trafodaeth gyhoeddus, ac arwain dadleuon o fewn y ddisgyblaeth.
Rydym yn chwarae rhan uniongyrchol ym mywyd cerddorol Caerdydd, gyda'n cyfres o gyngherddau ein hunain sy'n gysylltiedig ag ymchwil, yn ogystal â gweithgareddau radio, teledu ac ymgysylltu â'r cyhoedd yn rheolaidd.
Mae ein perthnasoedd cydweithredol â'r BBC (gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Cymru, BBC Radio 3, BBC Radio 4, a BBC Radio Wales), Opera Cenedlaethol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru hefyd yn ein helpu i chwarae rhan fawr yn y dirwedd ddiwylliannol.
Uchafbwyntiau
Uchafbwyntiau'r gorffennol
Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yw’r system a ddefnyddir i asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU.