Canolfannau a grwpiau
Mae'r Ysgol Cerddoriaeth wedi creu platfform i gydweithio’n rhyngddisgyblaethol ym maes ymchwil, a hynny yn y Brifysgol a’r tu hwnt iddi.
Yn ein canolfan ymchwil flaenllaw, Ymchwil Ryngddisgyblaethol Caerdydd mewn Opera a Drama (CIRO), rydyn ni’n atgyfnerthu arbenigedd yr ymchwil operatig sydd gennym yn yr Ysgol yn ogystal â hwyluso gwaith ar y cyd ag ymarferwyr proffesiynol.
Nod Canolfan Ymchwil Cerddoriaeth Brydeinig Prifysgol Caerdydd (CUBRIT), a sefydlwyd yn ddiweddar, yw hyrwyddo ac ehangu ymchwil ar gerddoriaeth gelf Brydeinig yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain, a hynny’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.