Popular Music Collective
Trin a thrafod pob agwedd ar berfformiadau byw modern.
Mae'r Grŵp Pop Torfol yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr drin a thrafod cerddoriaeth boblogaidd a byd perfformiadau byw. Mae aelodau'r ensemble yn cyfuno eu sgiliau o ran perfformio, trefnu, ysgrifennu caneuon a recordio o dan hyfforddiant y cyfarwyddwr Maddie Jones.
Mae'r Pop Collective yn agored i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd gyda chlyweliadau'n cael eu cynnal bob mis Medi. Mae myfyrwyr sydd â diddordeb mewn peirianneg sain, cynhyrchu, rheoli, creu cynnwys, cyfryngau cymdeithasol hefyd yn cael eu hannog i gysylltu â ni!
I gael rhagor o wybodaeth, ebostiwch Elin Jones jonese159@caerdydd.ac.uk
Mae'r Pop Collective yn herio myfyrwyr i ychwanegu at eu profiad mewn bandiau a'u cyflwyno i ffyrdd newydd o berfformio a chynhyrchu cerddoriaeth.
Mae'r cyfarwyddwr Maddie Jones yn dod â chyfoeth o brofiad mewn perfformiadau byw a bydd yn gweithio gyda'r ensemble i ddylunio a chreu pob agwedd ar berfformiad byw.
Arweinydd yr Ensemble: Maddie Jones
Mae Maddie Jones yn gantores, cyfansoddwr caneuon, cynhyrchydd, gitarydd, pianydd, cyfansoddwr, cyfarwyddwr cerddorol, mentor, athrawes a chrëwr cynnwys sydd â phrofiad sylweddol o fentora cerddorion ifanc, yn enwedig drwy Brosiect Forté.
Mae ei gwaith fel cyfarwyddwr y Pop Collective yn cael ei gefnogi gan ei phrofiad mewn sbectrwm arddull eang. Gan berfformio mewn amrywiaeth o grwpiau, a rhyddhau/perfformio cerddoriaeth wreiddiol fel MADITRONIQUE, mae hi wedi ennill nifer o wobrau am ei gwaith.