Ensemble Jazz
Yn cefnogi ein chwaraewyr jazz talentog.
Cyfarwyddir yr Ensemble Jazz gan y cerddor jazz nodedig Huw Warren ac mae'n agored i chwaraewyr o bob lefel o brofiad. Dysgwch sgiliau craidd am fyrfyfyrio, harmoni/theori jazz, a chael hwyl gydag arddulliau jazz cyfoes a cherddoriaeth y byd mewn lleoliad ensemble mawr!
Gan weithio ar y glust ac o siartiau, mae'r ensemble yn gweithio tuag at berfformiad bob semester. Mae’r Ensemble Jazz hefyd yn rhoi cyfle i fynd i weithdai ymarferol gyda cherddorion jazz blaenllaw yn y DU, yn ogystal â gweithio gyda chyfansoddwyr jazz mawr ar eu cerddoriaeth eu hunain.
Ers ei ffurfio yn 2015, mae'r gwesteion wedi cynnwys Laura Jurd, Iain Ballamy, Byron Wallen, Mark Lockheart, Dave Smith, Trish Clowes, Adriano Adewale, Jason Rebello, Alex Merritt, Yuri Goloubev a Steve Berry.
Cynhelir clyweliadau bob blwyddyn ar gyfer yr Ensemble Jazz ac mae croeso cynnes i fyfyrwyr nad ydynt yn astudio cerddoriaeth. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag Elin Jones.
Arweinydd yr ensemble: Huw Warren
Mae Huw Warren yn bianydd/cyfansoddwr sydd wedi ennill gwobrau rhyngwladol gyda recordiadau ar labeli Jazz ECM a CAM. Darganfyddwch fwy ar ei wefan.
Yr Ysgol Cerddoriaeth yn cyflwyno ei chyfres o gyngherddau sydd ar y gweill.