Ewch i’r prif gynnwys

Cerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd

Mae gan Gerddorfa Symffoni’r Brifysgol tua 120 o chwaraewyr bob blwyddyn.

Myfyrwyr yr Ysgol Gerdd yn bennaf yw aelodau’r Gerddorfa Symffoni, ond mae nifer sylweddol o fyfyrwyr o Ysgolion eraill yn llwyddiannus yng nghlyweliadau’r Brifysgol bob blwyddyn, gan gynrychioli Peirianneg, Ieithoedd Modern, Meddygaeth, Ffiseg, y Gyfraith, Seicoleg a mwy.

  • Wedi gwneud clyweliad: Angen clyweliad
  • Sesiynau ymarfer: Dydd Llun, 18:05-21:00, Neuadd Gyngerdd

Mae'r Gerddorfa Symffoni yn agored i holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd a bydd y clyweliadau yn cael eu cynnal bob mis Medi. I gael rhagor o wybodaeth am glyweliadau, ebostiwch Elin Jones jonese159@caerdydd.ac.uk.

Mae'r Gerddorfa yn cyflwyno ystod o berfformiadau cyffrous mewn nifer o leoliadau yn ne Cymru, gan gynnwys Neuadd Dewi Sant a Neuadd Hoddinott y BBC. Mae'r gerddorfa wedi mynd ar daith i Tsieina, Gwlad Belg, yr Almaen a Ffrainc ac yn gobeithio teithio eto yn 2019.

Gwnaethon ni ryddhau ein CD cyntaf yn 2014, gyda gweithiau gan William Mathias a chyn-fyfyrwyr yr Ysgol Gerddoriaeth, Yfat Soul Zisso a Morfydd Owen, yn ogystal â fersiwn 1881 o Totentanz gan Liszt nad yw’n cael ei pherfformio’n aml.

Roedd yr ail CD a ryddhawyd gennym yn cynnwys recordiadau o’r perfformiadau cyntaf yn y byd o ddau waith gan Claude Debussy. Roedd y ddau ddarn - Prélude à l'histoire de Tristan a No-Ja-Li ou Le Palais du Silence - heb eu gorffen pan fu Debussy farw ym 1918. Ers hynny, maen nhw wedi cael eu gorffen a’u trefnu ar gyfer cerddorfa gan Robert Orledge, arbenigwr blaenllaw ar gerddoriaeth o Ffrainc, a chafodd y rhain eu perfformio'n gyhoeddus am y tro cyntaf gan Gerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd a Mark Eager ym mis Mawrth 2015 yn rhan o wŷlDinas y Goleuni Cerddorfa’r Philharmonia.

Dyma a ddywedodd adolygiad diweddar o'r CD yn The Times: “Y peth newydd a’m gwefreiddiodd go iawn yr wythnos hon oedd trefniant ballet Tsieineaidd Debussy, No-ja-la - darn anorffenedig arall, a oedd i’w pherfformio’n wreiddiol ar y llwyfan yn Llundain ar ffurf rifiw ym 1914, ond sydd wedi cael bywyd newydd yn fwy diweddar mewn ail-gread arbennig o effeithiol gan Robert Orledge. Ei pherfformio am y tro cyntaf gan gerddorion gwych Prifysgol Caerdydd yw uchafbwynt City of Light: New Discoveries.”

Rhyddhawyd y ddau CD ar label Prima Facie.