Perfformio
Un o nodweddion deniadol astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yw cyfoeth ac amrywiaeth y gweithgareddau cerddorol sydd ar gael.
Rydym ni’n hynod o falch o’n gweithgareddau cerddorol a phopeth a wnawn i hybu perfformio, cerddoriaeth a gwerthfawrogiad o gerddoriaeth yn y Brifysgol a thu hwnt.
Rydym ni’n rhedeg 10 o ensemblau yn yr Ysgol ac mae myfyrwyr yn gallu manteisio ar amrywiaeth enfawr o gymdeithasau cerddorol dan arweiniad myfyrwyr.
Ymunwch ag ensemble, cerddorfa neu grŵp cerddorol arall
Mae'r ensemblau sydd yn cael eu rhedeg gan yr Ysgol Cerddoriaeth yn agored i fyfyrwyr ar draws y Brifysgol gan amlaf.
Dyrennir lleoedd mewn ensemblau yn gynnar yn y flwyddyn academaidd. I gael gwybodaeth am glyweliadau cysylltwch gyda ein Swyddog Gweithredol Perfformio ac Ymgysylltu, Elin Jones.
Grwpiau cerddorol yr Ysgol
Ensembles dan arweiniad myfyrwyr
- Palestrina Singers
- The Cardiff University Purcell Singers
- Operatic Society
- Big Band
- Saxophone Ensemble
- Jazz Choir
- Jazz Orchestra
- Cardiff University String Orchestra
- Cardiff University Brass Band
- Blank Verse All Girls Choir
- Flute Choir
- Male Voice Choir
- Cello Ensemble
- Concert Orchestra
- En Cor
- Cardiff Camerata
- Clarinet Choir
- The Bella Cantas
Yr Ysgol Cerddoriaeth yn cyflwyno ei chyfres o gyngherddau sydd ar y gweill.