Ewch i’r prif gynnwys

Composition

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae Cyfansoddi yn yr Ysgol Cerddoriaeth yn adran amrywiol, fywiog ac eclectig. Rydym yn addysgu cyfansoddi ar lefel israddedig, gradd Meistr a PhD.

Cyn dod i astudio yn y brifysgol, mae gan lawer o fyfyrwyr gefndir cymysg iawn o ran addysg gyfansoddi, ond ar ôl dechrau yn y flwyddyn gyntaf, mae llawer yn gweld mai hon yw un o’u hoff elfennau yn eu gradd israddedig. Mae llawer o'n myfyrwyr cyfansoddi’n dewis parhau i astudio ar gyfer gradd Meistr a PhD mewn cyfansoddi. Mae sawl un o gyn-fyfyrwyr yr Ysgol wedi mynd ymlaen i ddod yn gyfansoddwyr proffesiynol gweithgar.

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o fodiwlau cyfansoddi drwy’r rhaglenni israddedig a rhaglenni Meistr ynghyd ag amrywiaeth o fodiwlau technegol a cherddoleg ychwanegol.

Gweithdai

Mae cyfansoddwyr gwadd, perfformwyr proffesiynol ac ensembles yn ymweld â’r Ysgol yn rheolaidd i gynnal gweithdai a seminarau cyfansoddi.

Mae hyn yn rhoi cyfle ichi glywed eich cerddoriaeth yn dod yn fyw ac ennill profiad ymarferol yn gweithio gyda pherfformwyr i wireddu eich syniadau cyfansoddi mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol.

Seminarau Cyfansoddi Wythnosol

Mae ein cyfansoddwyr yn croesawu gwesteion gwadd i siarad am amrywiaeth eang o faterion pwysig sy’n berthnasol i’r ddisgyblaeth. Gall y seminarau hyn gynnwys trafodaethau â chyfansoddwyr sy’n ymweld; cyflwyniadau gan fyfyrwyr PhD; a dadansoddiad o dechnegau cyfansoddi.

Arddangos Cyfansoddi Blynyddol

Mae ein cyfansoddwyr ôl-raddedig yn trefnu cyngerdd arddangos blynyddol sy'n cynnwys gwaith diweddar gan ein myfyrwyr presennol; mae'n un o uchafbwyntiau'r gyfres cyngherddau yn ystod semester y gwanwyn. Mae ein cyfansoddwyr PhD hefyd yn trefnu cyngherddau o gyfansoddiadau gan fyfyrwyr Blwyddyn 1 a 2.

Diwrnod Astudio 'Sylw i Gyfansoddwr'

Bob blwyddyn, mae Dr Bickerton yn trefnu cyfle i gyfansoddwyr israddedig ac ôl-raddedig ddathlu gwaith cyfansoddwr penodol yn eu ffordd unigryw eu hunain. Mae cyfle i fyfyrwyr cyfansoddi glywed eu gwaith wedi’u perfformio mewn cyngerdd prynhawn ar ôl bore dwys o weithdai a thrafodaethau seminar gyda siaradwyr gwadd.

Mae’r dathliadau blaenorol wedi cynnwys Canmlwyddiant Britten (2013), 'Buddugoliaeth Amser?' Ymatebion i Birtwistle yn 80 (2014), La Monte Young yn 80 (2015), a Reich yn 80 (2016). Howard Skempton fydd y cyfansoddwr o dan sylw yn 2017.

Staff Cyfansoddi

Mae gan y staff cyfansoddi broffiliau cenedlaethol a rhyngwladol cadarn. Mae gweithiau gan:

Yr Athro Arlene Sierra

Yr Athro Arlene Sierra

Professor of Music Composition

Email
sierraae@caerdydd.ac.uk
Dr Pedro Faria Gomes

Dr Pedro Faria Gomes

Senior Lecturer in Composition and Director of Postgraduate Taught Studies (MA Music)

Email
fariagomesp@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0241
Dr Robert Fokkens

Dr Robert Fokkens

Senior Lecturer in Composition

Email
fokkensr@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4378
Dr Daniel Bickerton

Dr Daniel Bickerton

Senior Lecturer and Director of Learning and Teaching

Email
bickertondi@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0405