Perfformio a chyfansoddi
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Rydym yn hynod o falch o'r amrywiaeth eang o gyfleoedd perfformio a chyfansoddi a gynigiwn yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd.
Perfformio
Rydym yn cynnig amrywiaeth cyfoethog ac amrywiol o weithgareddau cerddorol, gan gynnwys grwpiau cerddoriaeth dan arweiniad yr Ysgol, cyngherddau amser cinio wythnosol sy'n cael eu rhedeg gan fyfyrwyr, yn ogystal â llawer o gymdeithasau a grwpiau cerddorol o dan arweiniad myfyrwyr, gan gynnwys grwpiau corawl, Band Mawr, a Chymdeithas Operatig.
Mae ein hensembles yn perfformio’n rheolaidd mewn lleoliadau blaenllaw yng Nghaerdydd, a thu hwnt hefyd. Aeth Cerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd ar ei thaith Ewropeaidd gyntaf yn 2015, wedi hynny bu ar daith i'r Almaen yn 2016 a Xiamen, Tsieina yn 2017.
Mae ein Hysgol yn cynnig Neuadd Gyngerdd 250 sedd gyda dau biano cyngerdd, organ bib â dwy allweddell, organ siambr, fortepiano, dau harpsicord ac amryw o offerynnau allweddellau cynnar eraill, yn ogystal ag offerynnau taro.
Cyfansoddi
Mae ein hadran gyfansoddi’n weithgar, mae’n addysgu ar lefel israddedig, gradd Meistr a PhD. Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd cyfansoddi gan gynnwys modiwlau drwy’r graddau israddedig a Meistr, yn ogystal ag ymweliadau rheolaidd gan gyfansoddwyr gwadd, perfformwyr proffesiynol ac ensembles.
Mae ein Hadeilad Cerddoriaeth yn gartref i bedair stiwdio electroacwstig, sydd wedi’u trin yn acwstig a sydd ag adnoddau llawn i safonau’r diwydiant gan gynnwys ProTools, Logic Pro, a nifer o offerynnau meddalwedd, banciau samplau ac ategion. Hefyd mae gan ein prif stiwdio ystafell recordio byw er mwyn recordio amldrac, trosleisio, a recordio dros recordiadau (overdubs).
We offer a rich and diverse range of musical activities, including School-led music groups, weekly student-run lunchtime concerts, as well as many student-led musical societies and groups including choral groups, Big Band, and an Operatic Society.
Our ensembles regularly perform in Cardiff’s leading venues, as well as further afield. Our ensembles have previously undertaken tours throughout Europe, China and Indonesia.
Our School offers a 250-seat Concert Hall housing two concert grand pianos, a two-manual pipe organ, a chamber organ, a fortepiano, two harpsichords and various other early keyboard instruments, as well as percussion instruments.
Composition
Our composition department is active, teaching at undergraduate, Masters and PhD level. We offer a wide range of composition opportunities including modules throughout undergraduate and Masters as well as regular visits from guest composers, professional performers, and ensembles.
Our Music Building is home to four electro-acoustic studios, fully acoustically treated and equipped to industry standards including ProTools, Logic Pro, and numerous software instruments, sample banks and plugins. Our main studio also has an attached live room for multi-track recording, voiceovers, and overdubs.
Bydd amrywiaeth o gyfleusterau ar gael i chi pan fyddwch yn astudio gyda ni, gan gynnwys ein neuadd gyngerdd gyda 250 o seddi, ystafelloedd ymarfer a stiwdios recordio.