Côr Siambr Prifysgol Caerdydd ar daith i Malaysia
Peter Leech, arweinydd Côr Siambr Prifysgol Caerdydd, sy'n rhoi trosolwg o ymweliad y Côr Siambr â Malaysia yn ystod haf 2023.
Yn ystod haf 2023 aeth Côr Siambr Prifysgol Caerdydd ar daith gyngerdd o amgylch Malaysia, gan berfformio ym Mhrifysgol Xiamen Malaysia, Prifysgol Sunway, UCSI Malaysia a Christ Church Melaka. Hon oedd ail daith y côr mewn pedair blynedd, yn llawn profiadau cyngerdd ac allgyrsiol cyffrous y bydd y cantorion a'r staff yn eu cofio am flynyddoedd lawer.
Roeddem wrth ein bodd yn cael perfformio yn rhai o'r neuaddau cyngerdd prifysgol mwyaf a phwysicaf yn Ne-ddwyrain Asia, yn enwedig yn XUM (lle cododd cynulleidfa o 500 ar eu traed i'n cymeradwyo, a lle cawsom fwynhau perfformiadau Erhu a Dawns Tsieineaidd meistrolgar) ac UCSI, lle cawsom rannu llwyfan cyngerdd gyda dau o ensembles corawl gwych UCSI, a lle creodd eu myfyrwyr cyfryngau fideo byr hyfryd o ddetholiadau.
Roedd ein cyngerdd amser cinio ym Mhrifysgol Sunway yn cynnwys cydweithrediad arbennig iawn gydag ensemble lleisiol y brifysgol a'u harweinydd Lai Suk Yin, a'n harweiniodd ni i gyd i berfformio madrigal. Gwnaeth ein cyngerdd yno argraff bwerus ar nifer o'r plant ifanc yn y gynulleidfa.
Roeddem ni'n arbennig o falch o fod wedi mynd â repertoire corawl oedd â chryn amrywiaeth, gan gynnwys tri darn gan y gyfansoddwraig Gymreig Morfydd Owen, cerddoriaeth gysegredig gan José Mauricio Garcia, Olivia Sparkhall, Imogen Holst (a chyfansoddwyr benywaidd eraill yn Multitude of Voyces Cyfrol 1), yn ogystal â Johanna Kinkel a William Byrd, gan nodi 400 mlynedd ers ei farwolaeth yntau yn 1623.
Roedd ein dewis o repertoire yn arbennig o arwyddocaol gan mai'r digwyddiad yn XUM oedd y cyngerdd corawl swyddogol cyntaf yn y brifysgol honno. Roedd cael arddangos rhaglen mor amrywiol a chynhwysol mewn achlysur mor bwysig yn anrhydedd mawr.
Roedd cyngerdd olaf y daith yn Christ Church Melaka hanesyddol, a sefydlwyd ym 1753, yn cynnwys rhaglen estynedig gyda Miserere Marianna Martines ac Ave Maria pedair rhan Giovanni Battista Casali. Roedd yn arbennig o deimladwy canu gwaith Byrd (cyfaill agos i lawer o Jeswitiaid yn Lloegr) yn Christ Church, ychydig gannoedd o lathenni o eglwys Sant Paul, a adeiladwyd ym 1521, lle bu corff Sant Ffransis Xavier (un o sylfaenwyr y Jeswitiaid) yn gorwedd am fis yn 1553 cyn cael ei gludo i Goa.
Gwnaeth hanes amlddiwylliannol, amrywiol Melaka argraff ddofn ar bawb, o gerddoriaeth a dawns draddodiadol i fwyd stryd blasus, amgueddfeydd, a chartrefi hanesyddol y teithwyr masnachol, heb sôn am y madfallod monitor enfawr yn mwynhau eu hunain yn yr haul ar risiau caffis glan yr afon.
Ar wahân i'r perfformio, buom ni’n ymweld â llawer o safleoedd diwylliannol lleol a phwysig, gan gynnwys Ogofâu Batu (Gombak), Mosg Putra (Putrajaya), Amgueddfa Genedlaethol Malaysia (Kuala Lumpur), Listan Negara (Palas Brenhinol) a Thyrau Petronas (Kuala Lumpur).
Diolch yn arbennig i Elin Jones (Swyddog Gweithredol Perfformio ac Ymgysylltu) am drefnu cynifer o weithgareddau gwych, Dr Nicholas Jones (Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth) a Becca Ding (Cynorthwyydd Gweinyddol Rhyngwladol), y bu ei doniau llysgenhadol yn disgleirio drwy gydol ein cyfnod ym Malaysia.
Hoffai'r Ysgol Cerddoriaeth ddiolch i Taith a Cyfleoedd Byd-eang am wneud taith Côr Siambr Prifysgol Caerdydd i Maleisia yn bosibl.