Ewch i’r prif gynnwys

Astudio dramor

Robert Stevens, Professor Jenni Cook a Matthew Lush
Robert Stevens a Matthew Lush ym Mhrifysgol New Hampshire gyda'r Athro Jenni Cook

Cyfle i ehangu eich gorwelion drwy astudio dramor, profiad y byddwch yn ei gofio am byth.

Gwrando ar Gerddorfa Ffilharmonig Berlin. Chwarae mewn band mawr mewn coleg yn America. Mynychu nosweithiau meic agored yn Ljubljana. Teithio i weld y Grand Canyon am benwythnos.

Gallwch gynyddu eich cyflogadwyedd, darganfod meysydd astudio newydd a phrofi bywyd mewn gwlad arall. Gallwch ddewis o un o'n sefydliadau partner niferus, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys prifysgolion yn UDA, Canada, Awstralia, Seland Newydd, Gwlad Thai, Hong Kong, yr Almaen, Sbaen, Ffrainc, yr Eidal, Portiwgal, y Ffindir, y Weriniaeth Tsiec a Gwlad Belg. Ym mhob achos, rydych yn gymwys i wneud cais am arian drwy Gynllun Turing Prydain neu Raglen Taith Cymru.

Astudio ym Mhrifysgol Helsinki oedd un o'r profiadau mwyaf cyfoethog erioed, gan agor fy llygaid i gymaint o bethau. Does dim yn cymharu â'r atgofion y byddwch chi'n eu creu a'r cyfeillion rhyngwladol y byddwch yn eu gwneud!

Jackie Yip (BA 2018)

Pwy sy'n cael astudio dramor

Mae'r holl fyfyrwyr sy'n astudio gradd Anrhydedd Sengl mewn Cerddoriaeth, a rhai sy'n astudio gradd Cydanrhydedd, yn cael treulio semester neu flwyddyn yn astudio dramor. Caiff graddau sy'n cynnwys blwyddyn dramor eu hastudio dros bedair blynedd, gyda'r drydedd flynedd mewn sefydliad partner dramor.

Cyrsiau gradd gyda chyfle i astudio dramor

Astudio dramor ym Mhrifysgol New Hampshire (UDA) oedd yr antur fwyaf a gorau i mi ei chael erioed! Gwneud ffrindiau newydd, dysgu pethau newydd a phrofi bywyd a phrifysgol mewn gwlad wahanol. Mae'n wych!

Lizzie Watson (BA 2018)

Beth allwch chi ei astudio dramor

Gallwch barhau gyda'ch astudiaethau yn y pynciau rydym ni'n eu cynnig yn yr Ysgol Cerddoriaeth, fel perfformio, cyfansoddi, hanes cerddoriaeth a cherddoriaeth ffilm. Efallai y cewch hefyd astudio pynciau newydd fel therapi cerdd a seicoleg cerdd, arwain, cyfansoddi jazz a chyfansoddi ar gyfer ffilm, teledu a gemau fideo, gan ddibynnu ar yr hyn sydd ar gael yn eich sefydliad lletyol.

Mae'r rhan fwyaf o'n prifysgolion partner yn darparu addysg yn Saesneg, ond efallai y bydd cyfle i'r rheini sy'n astudio yn Ewrop astudio yn iaith genedlaethol y wlad berthnasol.

Ciniawau iaith

Mae ein ciniawau iaith wythnosol yn dod â'n cymuned ryngwladol o fyfyrwyr a staff at ei gilydd, gyda'r cyfle i siarad mewn amrywiol ieithoedd gyda siaradwyr brodorol a dysgwyr eraill.

Cewch ymarfer eich sgiliau iaith, sgwrsio gyda myfyrwyr o'n sefydliadau partner rhyngwladol, a pharatoi ar gyfer astudio dramor

Rhagor o wybodaeth

Dr Jerry Yue Zhuo

Dr Jerry Yue Zhuo

Lecturer in Composition

Email
zhuoy3@caerdydd.ac.uk