Ewch i’r prif gynnwys

Israddedig

Wrth astudio Cerddoriaeth gyda ni, cewch chi'r cyfle i ymgysylltu â chymuned gerddorol fywiog.

Mae ein cwricwlwm israddedig yn gadarn o ran sgiliau traddodiadol, ond hefyd yn adlewyrchu'r datblygiadau cyfoes yng ngherddoriaeth a cherddoleg.

Mae ein myfyrwyr yn gweithio a'n astudio gyda staff academaidd sy'n arbenigwyr ym meysydd cyfansoddi, perfformio, cerddoleg, ethnogerddoleg, a cherddoriaeth boblogaidd.

Rydym wrthi’n annog ein myfyrwyr i ddatblygu sgiliau cerddorol a beirniadol sy’n addas i amrywiaeth eang o yrfaoedd a gweithleoedd. 98% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21)*.

Mae ein graddedigion yn llwyddiannus o fewn y proffesiwn cerddorol - fel cyfansoddwyr, arweinwyr, perfformwyr, athrawon, gweinyddwyr y celfyddydau, a llyfrgellwyr cerddorol - ond hefyd mewn meysydd amrywiol fel y gyfraith, cyfrifeg, gwleidyddiaeth, TG, marchnata ac ymgynghoriaeth rheoli.

Rhaglenni gradd

Mae ein cwrs BMus yn cynnig astudiaeth fanwl o gerddoriaeth sy'n eich galluogi chi i arbenigo ac i ddatblygu eich diddordebau cerddorol eich hun:

Clyweliadau a chyfweliadau

Fideo clyweliadau

Bydd rhan fwyaf o'n ymgeiswyr israddedig yn derbyn gwahoddiad i ymweld â'r Ysgol Cerddoriaeth. Yn ystod eich ymweliad byddwch yn gallu mynd ar daith tywys o'r adeilad a chael clyweliad a chyfweliad 15 munud.

Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar ein tudalennau cwrs.


Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.