Ysgoloriaethau
Rydym yn cynnig dau fath o ysgoloriaethau MA sy'n cael eu dyfarnu ar sail cymhwysedd ac sy'n cael eu gwasgaru i fyfyrwyr llwyddiannus fel gostyngiad oddi ar ffioedd dysgu.
Daw'r ddau o bortffolio'r Ysgol o gymynroddion. (Noder bod pob ysgoloriaeth yn amodol ar argaeledd o flwyddyn i flwyddyn.)
Ysgoloriaethau Teilyngdod Ôl-raddedig
Mae ysgoloriaethau o £500 ar gael i gyn-fyfyrwyr yr Ysgol Cerddoriaeth sy'n dymuno parhau â'u hastudiaethau ôl-raddedig gyda'r Ysgol ar y rhaglen MA mewn Cerddoriaeth.
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cael canlyniad gradd israddedig dosbarth cyntaf i fod yn gymwys ar gyfer y wobr hon a'u bod wedi gwneud cais i'r rhaglen MA dim hwyrach na'r 31 Gorffennaf i fod yn gymwys ar gyfer carfan y flwyddyn academaidd nesaf.
Bydd pob ymgeisydd yn cael ei ystyried yn awtomatig ar gyfer yr ysgoloriaethau ar gais a'u hysbysu drwy ebost os ydych wedi bod yn llwyddiannus.
Ysgoloriaethau Elît Rhyngwladol
Mae ysgoloriaethau o £1000 ar gael i ymgeiswyr rhyngwladol sy'n gyn-fyfyrwyr o un o'n sefydliadau partner rhyngwladol.
Bydd ymgeiswyr cymwys yn cael eu hystyried yn awtomatig ar gyfer yr ysgoloriaethau wrth ymgeisio i'r rhaglen ond mae'n rhaid eu bod wedi llwyddo i fodloni amodau eu cynnig erbyn 31 Awst i dderbyn ysgoloriaeth yn llwyddiannus ar gyfer carfan y flwyddyn academaidd nesaf.
Caiff myfyrwyr wybod trwy ebost os ydynt wedi cael dyfarniad.
Cysylltwch â'r Gweinyddwr Ôl-raddedig am unrhyw wybodaeth bellach am ysgoloriaethau'r Ysgol Cerddoriaeth:
Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Prifysgol Caerdydd
Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnig nifer o gyfleoedd ysgolheictod a bwrsari eraill, gan gynnwys:
- Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Meistr – gwobr sy'n agored i fyfyrwyr â statws ffi gartref sy'n bwriadu astudio un o’n graddau Meistr a addysgir
- Ysgoloriaeth Ryngwladol yr Is-Ganghellor – dros £2M mewn cyllid i fyfyrwyr rhyngwladol israddedig ac ôl-raddedig drwy ein hystod o gynlluniau ysgoloriaeth
- Gostyngiad i Gynfyfyrwyr - Mae'r gostyngiad i gyn-fyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r meini prawf cymhwysedd a sut i wneud cais, gweler ein tudalennau cyllido ôl-raddedigion.