Ewch i’r prif gynnwys

Ôl-raddedig a addysgir

Rydyn ni’n rhoi pwyslais ar gynnig hyblygrwydd a dewis i fyfyrwyr ac rydyn ni wedi llunio ein rhaglen sy'n eich galluogi i bersonoli eich cwrs astudio.

Bydd y rhaglen MA mewn Cerddoriaeth yn caniatáu i chi ystyried sgiliau cerddorol newydd, gwella eich cyflogadwyedd, atgyfnerthu meysydd arbenigedd, a bod yn sail i’ch gwaith drwy ddealltwriaeth well o feysydd perthnasol.

Byddwch yn cael eich annog i gymryd rhan mewn digwyddiadau ymchwil, gan gynnwys seminarau a chynadleddau. Mae ein cyfres reolaidd o weithdai a dosbarthiadau meistr yn eich galluogi i weithio’n uniongyrchol gyda chyfansoddwyr a pherfformwyr nodedig.

Maen bosibl i’n myfyrwyr Tsieineaidd gael rhagor o wybodaeth am ein MA mewn Cerddoriaeth (gyda llwybrau sy’n cynnwys Perfformio, Cyfansoddi, Astudiaethau Cerddoriaeth ac Addysg Cerddoriaeth):卡迪夫大学音乐硕士课程