Ysgoloriaethau
Mae'n bleser gennym gyhoeddi dwy ysgoloriaeth ddoethurol ffioedd yn unig ar gyfer dechrau astudio ym mis Hydref 2024.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ôl-raddedigion rhagorol sy’n fyfyrwyr cartref neu ryngwladol ac sydd â hanes priodol o lwyddo. Mae’n rhaid iddynt fod â gradd meistr gyda rhagoriaeth neu deilyngdod o brifysgol yn y DU (neu fod yn disgwyl cael gradd o’r fath) neu gymhwyster cyfatebol o’r tu allan i’r DU, neu brofiad proffesiynol addas.
Sut i wneud cais
I gael rhagor o wybodaeth am ysgoloriaethau a sut i wneud cais, ewch i’r dudalen we Ysgoloriaethau a phrosiectau PhD.
Mae’n rhaid i geisiadau ddod i law erbyn 17:00 ddydd Gwener, 1 Mawrth 2024. Ni fydd unrhyw geisiadau sy’n dod i law ar ôl y dyddiad a’r amser hwn yn cael eu derbyn.
Manylion cyswllt
Ar gyfer ymholiadau pellach ynghylch ein hysgoloriaethau PhD, cysylltwch â’r Gweinyddwr Ymchwil Ôl-raddedig, Huw Thomas:
Huw Rhys Thomas
Postgraduate Research (PGR) and Research Administrator
- Siarad Cymraeg
- thomash6@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2251 1092